Eich basged
Argraffu yn ôl y Galw
Gallwch chithau hefyd fod yn berchen ar brint neu gynfas prydferth wedi’i atgynhyrchu o’ch hoff waith o’r casgliad Cenedlaethol, a gallwn ei ddosbarthu i’ch cartref
Mae’r gweithiau a welir yma yn rhai o uchafbwyntiau ein casgliad helaeth. Methu gweld eich hoff ddelwedd? Cysylltwch â ni ac fe wnawn ni’n gorau i chwilio drosoch chi (kay.kays@amgueddfacymru.ac.uk).
Sylwer: os ydych yn archebu cynfas bydd yn cael ei dosbarthu wedi’i rolio ac nid wedi’i ymestyn dros ffrâm. Dyfynnir meintiau’r papur ac nid maint y ddelwedd.
Cynfasau ar gael heb ffrâm wedi’u rholio, neu wedi’u hymestyn ar ffrâm bren (lled 35mm, dyfnder 38mm) ag ymylon beflog.
5 - Delweddau O'r Archif
Y 'Fari Lwyd' yn Llangynwyd, Morgannwg, dan arweiniad 'Sianco'r Castell' tua 1904-1910.
9 - Delweddau O'r Archif
Pysgotwyr yng Nghilgerran, Ceredigion tua 1905. Ar y chwith, William Johnson, Awelfa. Ar y dde, John Morgan, Delfryn. Ffotograff gan Tom Mathias.
10 - Delweddau O'r Archif
Lladd gwair yn Nrewgoed, Llandderfel, Meirionnydd. Ffotograff gan R. Meredith a'i Fab.
Tocynnau rhodd
Heb ddod o hyd i'r anrheg perffaith? Ein tocynnau rhodd yw'r ateb i chi, a gellir eu defnyddio yn unrhyw un o siopau Amgueddfa Cymru. » Prynu tocynnau rhodd



