Ymerodraeth: Sioe Rufeinig
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
18 a 19 Awst 2012
11am - 5pm
Galwch draw i gymryd rhan mewn penwythnos arbennig o ail-greu’r gorffennol yn Amffitheatr Rhufeinig Caerllion ar 18 a 19 Awst!
Bydd seiniau gorymdaith y milwyr yn atsain o amgylch yr amffitheatr wrth iddynt arddangos yr arfau oedd yn sicrhau mai’r fyddin Rufeinig oedd yn deyrn.
Dewch i weld y grŵp o Gladiatoriaid poblogaidd, Ars Dimicandi, bob cam o’r Eidal bell!
Mae digon o ffyrdd i chi gymryd rhan hefyd. Cymrwch air â’n Rhufeiniaid a dysgu sut beth yn union oedd byw fel milwr, doctor neu ddynes Rufeinig.
Bydd teithiau tywys o gwmpas yr adfeilion Rhufeinig, gweithgareddau i blant a digonedd o hwyl yn ein stondinau o Amgueddfeydd ac atyniadau eraill.
- Dysgwch am fywyd bob dydd wrth gerdded o gwmpas gwersyll y Rhufeiniaid.
- A ydych chi'n ddigon dewr i ymweld â'r meddyg Rhufeinig sy'n cynnig dulliau iacháu anarferol a diddorol?
- Blaswch fwyd Rhufeinig a gwyliwch y milwyr yn gwneud ac yn atgyweirio arfau.
Yr Ermine Street Guard yn dychwelyd i Caerllion
Yn dathlu ei ben-blwydd yn 40, bydd The Ermine Street Guard, y prif grŵp ail-greu’r cyfnod Rhufeinig ail-greu hanes y Rhufeiniaid sydd wedi bod wrthi'r hiraf, yn dychwelyd i Gaerllion i ddifyrru'r torfeydd â'u harddangosiadau milwrol trawiadol.
Gwelwch sioe sleidiau o'r grŵp yn perfformio yng Nghaerllion yn 2009 am flas o'r hyn sydd i ddod y Gorffenaf yma.
Gwyliwch y ceffylau’n dangos eu sgiliau yn yr arena! Rhyfeddwch wrth weld hen beiriannau rhyfel yn saethu taflegrau yn uchel i'r awyr a marchogion dewr yn dangos cyflymder ac urddas y marchogion Rhufeinig.
Os oes gennych egni i’w losgi, beth am ymuno â’n hysgol gladiatoriaid? Mae croeso i blant ac oedolion fel ei gilydd – cydiwch mewn cleddyf a rhoi cynnig arni!
Dewch i weld sut beth oedd bywyd 2,000 o flynyddoedd yn ôl a mwynhau diwrnod llawn hwyl i’r teulu cyfan!
Tocynnau
Oedolion: £4.50
Consesiynau: £2.50
Tocyn Teulu: £12
Bydd amserlen llawn o diwgyddiadau y penthwynos ar gael fan hyn yn fuan.








