Helfa Falwod
Ewch allan i'r ardd i helpu gwyddonwyr i ddod o hyd i falwod 'estron'!
[delwedd: Malwen]
Cymrwch ran yn yr astudiaeth amgylcheddol hon a gynhelir ledled Prydain i gael gwybod a oes malwod 'estron' yn byw yn eich gardd gefn. Gall unrhyw un gymryd rhan!
Defnyddiwch ein siart malwod i ddechrau chwilio ...
Mae'r falwen 'estron' hon yn lledu i rannau newydd o Brydain. Rhowch wybod i ni os gwelwch un yn eich ardal chi.
Nid yw'r falwen 'estron' yn beryglus. Mae gwyddonwyr yn ei galw'n falwen 'estron' am nad malwen o Brydain yw hi go iawn. Daw'r falwen o ardal Môr y Canoldir. Mae'n gyffredin mewn gwledydd fel Sbaen a'r Eidal. Gwelwyd yr un gyntaf ym Mhrydain yn Nyfnaint ym 1950.
Sut ddaeth hi yma? Efallai ei bod wedi hwylio i Brydain ar ddamwain, wedi'i chuddio ymhlith rhyw blanhigion! Ond does neb yn gwybod yn iawn.
Gobeithio y gallwn ni ddysgu sut mae'r newid yn y tymheredd yn effeithio ar y bwystfilod bach sydd yn ein gerddi.