Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Gwyddoniaeth amgylcheddol ar dir eich ysgol
Gadewch y dosbarth ac ymuno â'r miloedd o wyddonwyr ysgol sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth gyffrous hon! Tyfwch eich bylbiau gwanwyn eich hun i helpu Athro'r Ardd i ddeall sut mae newid yn ein tymhorau yn effeithio blodau'r gwanwyn.
Ers Hydref 2005 mae gwyddonwyr ysgol o bob cwr o Gymru wedi bod yn cadw cofnodion tywydd ac yn nodi pryd mae eu planhigion yn blodeuo fel rhan o astudiaeth hirdymor sy'n edrych ar effeithiau tymheredd ar fylbiau'r gwanwyn.
Rydyn ni'n dal i gydweithio ag Ymddiriedolaeth Edina sy'n noddi'r potiau a'r bylbiau ac yn ehangu yrhaeddiad y project! Eleni, bydd 113 o ysgolion yn cymryd rhan - 63 yng Nghymru, 19 yn yr Alban a 31 yn Lloegr.







