Ymweld Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Un o'r amgueddfeydd awyr agored pwysicaf yn Ewrop, yn cynrychioli bywyd a diwylliant Cymru, ac wedi'i lleoli mewn 100 erw o barcdir.

Ar agor

10.00 am - 5.00 pm bob dydd.
Ar agor bob Dydd Llun Gŵyl Banc.
Mynediad am ddim!

Lleoliad

4 milltir i'r Gorllewin o Ganol y Ddinas, Caerdydd.

Cyfeiriad

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Caerdydd
CF5 6XB

Ffôn: (029) 2057 3500
Ffacs: (029) 2057 3490
Ebost ni

Lleoliad ar Multimap.co.uk

Lleoliad ar Streetmap.co.uk

Mynediad

Bysiau a ceir

Arwyddion o gyffordd 33 Traffordd yr M4. Mynediad uniongyrchol o'r A4232. Digonedd o le parcio di-dâl. Gostyngiad i grwpiau. Prydau rhatach i yrwyr bysiau.

Nodwch: Rhaid talu £3 am barcio ceir

Grwpiau

RHAID i bob grŵp archebu cyn ymweld.

I archebu neu gael manylion pellach cysylltwch trwy'r dulliau canlynol:

Ffôn: (029) 2057 3500
E-bostwch ni

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Mae bysiau'n rhedeg i Sain Ffagan trwy'r flwyddyn o'r orsaf fysiau y tu allan i orsaf drenau Caerdydd Canolog. Mae rhif 32 o Stand D1B yn rhedeg o leiaf bob awr, weithiau'n amlach yn dibynnu ar y tymor.

Dewis arall yw dal bws rhif 56 o'r stop gyferbyn â Chastell Caerdydd.

Cyfleusterau i'r anabl

Mynediad i gadeiriau olwyn. Sesiynau trin a thrafod. Mapiau cyffyrddol a thaflenni gwaith mewn braille i rai â nam ar eu golwg. Toiledau i'r anabl mewn dau le ar y safle. Mannau parcio i'r anabl yn y brif fynedfa. Gostyngiad ar dâl mynediad.

Cyfleusterau

Bwyty, caffe, lle picnic, siopau, maes parcio i ymwelwyr, cyfleusterau newid ar gyfer babanod, lle chwarae antur i blant, fferm gyda bridiau prin.

» Bwyd a diod

Nodwch bod yna beiriant arian ar y safle..

Note:

Ni chaniateir cŵn yn yr adeiladau hanesyddol, ond caniateir cŵn tywys.


Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Sain Ffagan, Caerdydd, CF5 6XB.
Ffôn +44 (0)29 20573500

Amgueddfa Cymru — National Museum Wales