Creu Hanes Gyda'n Gilydd!
Dros y 10 mlynedd nesaf, byddwn gyda'ch cymorth chi yn datblygu Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru er mwyn sicrhau bod yr Amgueddfa yn ateb anghenion pobl Cymru heddiw.
Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, bydd project Creu Hanes yn ymgeisio am nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i weddnewid profiad yr ymwelydd drwy ailwampio'r prif adeilad yn llwyr, agor orielau a gofodau dysgu cyffrous newydd a gwella'r cyfleusterau i'n hymwelwyr.
Bydd y newidiadau canlynol yn cyflawni gweledigaeth newydd Sain Ffagan:
- adeiladau hanesyddol newydd i ddangos bywyd yng Nghymru Oes yr Haearn a'r Canol Oesoedd
- adeilad cynaliadwy newydd sbon gyda gofodau arddangos a gweithgaredd i arddangos sgiliau traddodiadol
- gwella mynediad i'r Castell a'r gerddi
- ardaloedd chwarae newydd
- ail-greu'r gwaith tirlunio yn y gerddi ar ochr ddeheuol y safle
- gwaith tirlunio a gwelliannau amgylcheddol i'r maes parcio.
Estyniad a newidiadau i'r Prif Adeilad, yn cynnwys:
- arddangosfeydd ac orielau llawn gweithgareddau
- Canolfan Addysg newydd i gynnal gweithgareddau, gweithdai ac i wella mynediad i'r casgliadau
- to ar yr iard bresennol er mwyn creu gofod cyfeirio croesawgar
- siop a chaffi newydd.
Rydyn ni am wybod eich barn chi am y gwaith ailddatblygu. Gobeithio y gallwch chi roi ychydig funudau i edrych ar y cynlluniau a gadael adborth isod.