Creu Hanes Gyda'n Gilydd!

Dros y 10 mlynedd nesaf, byddwn gyda'ch cymorth chi yn datblygu Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru er mwyn sicrhau bod yr Amgueddfa yn ateb anghenion pobl Cymru heddiw.

Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, bydd project Creu Hanes yn ymgeisio am nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i weddnewid profiad yr ymwelydd drwy ailwampio'r prif adeilad yn llwyr, agor orielau a gofodau dysgu cyffrous newydd a gwella'r cyfleusterau i'n hymwelwyr.

Bydd y newidiadau canlynol yn cyflawni gweledigaeth newydd Sain Ffagan:

  • adeiladau hanesyddol newydd i ddangos bywyd yng Nghymru Oes yr Haearn a'r Canol Oesoedd
  • adeilad cynaliadwy newydd sbon gyda gofodau arddangos a gweithgaredd i arddangos sgiliau traddodiadol
  • gwella mynediad i'r Castell a'r gerddi
  • ardaloedd chwarae newydd
  • ail-greu'r gwaith tirlunio yn y gerddi ar ochr ddeheuol y safle
  • gwaith tirlunio a gwelliannau amgylcheddol i'r maes parcio.

Estyniad a newidiadau i'r Prif Adeilad, yn cynnwys:

  • arddangosfeydd ac orielau llawn gweithgareddau
  • Canolfan Addysg newydd i gynnal gweithgareddau, gweithdai ac i wella mynediad i'r casgliadau
  • to ar yr iard bresennol er mwyn creu gofod cyfeirio croesawgar
  • siop a chaffi newydd.

Rydyn ni am wybod eich barn chi am y gwaith ailddatblygu. Gobeithio y gallwch chi roi ychydig funudau i edrych ar y cynlluniau a gadael adborth isod.

» Mwy o ffyrdd i gymryd rhan

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.