Oriel 1 - Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Beth mae’n ei olygu i berthyn? Beth sy'n gyfrifol am bwy ydym ni? Ein teuluoedd, ein hieithoedd, ein man geni, ein credoau?
Yn Oriel 1 drwy Leisiau, Credoau, Teulu a Chenedl gallwch weld, cyffwrdd a gwrando wrth ddarganfod beth mae'n ei olygu i berthyn.
Hefyd gallwch fwynhau gweithiau gan rai o artistiaid cyfoes mwyaf cyffrous Cymru.

Mae'n hiaith yn rhan sylfaenol o'n hunaniaeth a'n hymdeimlad o berthyn. Mae'r Wal Ieithoedd yn dangos 80 o'r ieithoedd a siaredir yng Nghymru heddiw.
Archwiliwch hanes hir y Gymraeg a dysgwch am ei goroesiad o gyfieithiad y Beibl i ddyfodiad yr e-bost.
Drwy hanesion digidol ac arddangosiadau gallwch archwilio'r cysylltiad rhwng Bengaleg a'r Gymraeg a'r hyn a ddeil y dyfodol i ieithoedd.
Yn Oriel 1 archwilir y traddodiadau Cristnogol a Chymru fel cenedl aml-ffydd, gan gynnwys datblygiad crefyddau, credoau poblogaidd, personol a thraddodiadol, coelion gwerin, swynion ac ofergoelion.
Cewch weld sut mae teuluoedd yn creu ein hunaniaeth ac ennill gwell dealltwriaeth o hanes cymdeithasol y llu o adeiladau hanesyddol yn Sain Ffagan.
Archwiliwch albymau rhyngweithiol o ffotograffau o'r adeiladau a'r bobl fu'n byw ynddynt. Gwrandewch ar hanes llafar o'r adeiladau a'r bywyd teuluol fu ynddynt.

Gall plant wisgo lan fel plant oes Fictoria a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn ystod gwyliau'r ysgol ac ar benwythnosau.
Craidd Oriel 1 yw symbolau a thraddodiadau'r genedl. Drwy esbonio ystrydebau a tharddiad traddodiadau gallwn ddysgu sut maent yn gweddu i gymdeithas heddiw a sut mae Cymru'n ailddyfeisio ei hun o hyd ac o hyd.
Mae arddangosiadau traddodiadol, clywedol a gweledol ar yr Eisteddfod Genedlaethol, chwaraeon, symbolau, traddodiadau a Gwlad y Gân yn taflu goleuni ar yr ymdeimlad o berthyn yng Nghymru.

» Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
» Oriel 1 on Twitter
» Blog Oriel 1








