Castell Sain Ffagan
Mae'r castell yn esiampl hyfryd o bensaernïaeth oes Elizabeth I. Mae Neuadd y Castell yn lleoliad perffaith ar gyfer seremoni briodas ac yn llawn tapestrïau goludog, celfi rhosbren a choed derw hyfryd a phaentiadau olew hardd. Mae gerddi'r Castell yn ddelfrydol ar gyfer gwledd briodas mewn pabell ac mae'r gerddi yn leoliad delfrydol i dynnu lluniau. Gellir llogi'r Bwtri a'r Ystafell Fwyta hefyd ar gyfer llu o ddigwyddiadau, o ddiwrnodau hyfforddi a chiniawau corfforaethol, i de prynhawn neu ginio ffurfiol yn dilyn priodas.
Neuadd y Castell
|
Yn eistedd 40 gwestai |
Ar gael yn ystod y dydd Llun-Sad |
Prisiau o £500 + TAW |
Bwtri’r Castell |
Yn eistedd 40 gwestai |
Ar gael yn ystod y dydd neu’r nos Llun-Sad |
Prisiau o £160-650 + TAW |
Ystafell Fwyta'r Castell |
Yn eistedd 40 gwestai |
Ar gael yn ystod y dydd neu’r nos Llun-Sad |
Prisiau o £160-650 + TAW |
Cliciwch yma am ein Pecynnau Priodas arbennig.











