Llogi Cyfleusterau a Phriodasau
[delwedd: ]
[delwedd: ]
[delwedd: ]
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Gall Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru gynnig sawl lleoliad unigryw heb eu hail ar gyfer digwyddiadau corfforaethol a phreifat mawr a bach.
Mae'n gartref i dros ddeugain o adeiladau hanesyddol a symudwyd garreg wrth garreg o wahanol rannau o Gymru ac yn dangos i ni sut roedd y Cymry'n byw ac yn gweithio drwy'r oesoedd.
Saif yr amgueddfa mewn 100 erw o dir gwledig prydferth ar gyrion Caerdydd ar dir Castell godidog Sain Ffagan, maenordy o ddiwedd yr 16eg ganrif oedd yn rhodd gan Iarll Plymouth.
Am wybodaeth am seremonïau priodas a derbyniadau, partneriaethau sifil, ffotograffiaeth a llawer mwy, ewch i adran Priodasau.
Mae sawl lleoliad ar gael i'w llogi'n breifat ar gyfer amryw ddigwyddiadau o dderbyniadau diodydd, ciniawau mawreddog a seremonÎau gwobrwyo i ddiwrnodau hyfforddi, seminarau a chyfarfodydd.
Gweler y dolenni Llogi Preifat isod am fwy o wybodaeth:
Bwtri'r Castell, Ystafell Fwyta a Pabell ar y Lawnt
[delwedd: ]
Arlwyo
Darperir arlwy yn fewnol gan yr arlwywr sector celfyddydau a threftadaeth arbenigol, Elior.
Mae'r tîm profiadol hwn yn darparu bwydlenni sy'n ysbrydoli a gwasanaeth di-ail. Caiff y bwyd ei baratoi ar y safle gan ddefnyddio cynhwysion lleol ffres ar bob cyfle posibl.
Mae'n bleser gennym gynnig gostyngiad ar gyfradd llogi yn ystod y dydd i elusennau cofrestredig, cyrff addysg ffurfiol, grwpiau cymunedol a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Gellir llogi Cyfleusterau ychwanegol yn cynnwys: System lwyfannu a goleuo, gliniaduron, taflunwyr data, teledu a chwaraewr DVD.
Am wybodaeth bellach lawrlwythwch ein llyfryn a'n bwydlenni PDF o'r dudalen hon neu gwnewch apwyntiad i ymweld â'r lleoliad gyda aelod o'n tîm Llogi Cyfleusterau.
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Sain Ffagan
Caerdydd
CF5 6XB
Ffôn: (029) 2057 3500
Ffacs: (029) 2057 3490