Canllawiau Mynediad - Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Cyngor i ymwelwyr anabl
Audio Version

Pobl sy'n methu cerdded yn dda
- Ceir mannau parcio arbennig ar gyfer ymwelwyr anabl yn y maes parcio, ger prif fynedfa'r amgueddfa. Ceir rampiau'n arwain at y fynedfa a'r siopau.
- Ceir rampiau ir orielau, y parc awyr-agored ar bwytai.
- Mae cadair olwyn ar gael i'w defnyddio, am ddim, os gofynnwch amdanynt, yn y prif gyntedd. Er na ellir trefnu rhag blaen i ddefnyddio'r cadeiriau hyn ac mai'r cyntaf i'r felin gaiff falu, byddwn yn rhoi gwybod i'r Swyddfa Docynnau os cawn gais ymlaen llaw.
- Gellir mynd i'r rhan fwyaf o'r safle mewn cadair olwyn. Fodd bynnag, gan fod rhai o'r adeiladau yn ein casgliad yn hen iawn, gall fod yn anodd mynd i fewn iddynt.
- Mae'n werth nodi hefyd bod tirlun ochr y Castell yn serth mewn mannau ac yn gallu profi'n anodd i rai defnyddwyr cadair olwyn a'u cynorthwywyr. Nodir y llwybrau haws ar yr arwyddbyst. Gellir prynu copi o fap yn egluro llwybrau addas i gadeiriau olwyn, ac yn dangos unrhyw lethrau serth, am 30c o'r Oriel Groeso. Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael ar arwyddion mawr ar draws y safle.
- Mae rampiau symudol a lifft ar gael yn Sefydliad y Gweithwyr Oakdale. Ceir lifft arbennig i gadeiriau olwyn yn y Tŷ ar gyfer y Dyfodol.
- Mae Cerbyd Teithio Anabl ar gael i gludo ymwelwyr o gwmpas y safle yn rhad ac am ddim. Gall y Cerbyd gludo hyd 5 ymwelydd anabl. Fodd bynnag, yn ôl cyfarwyddiadau Iechyd a Diogelwch, dim ond 2 ymwelydd ag anabledd gwael gellir eu cludo ar y tro gyda gofalwr yr un. Gan fod angen gyrrwr sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig, gofynnwn i chi archebu'r gwasanaeth hwn bythefnos ymlaen llaw trwy ffonio 029 2057 3500 a gofyn am yr adran Gweithgareddau Safle. Mae'r gwasanaeth am ddim.
Pobl sydd â Nam ar y Golwg
- Un o bleserau ymweld â Sain Ffagan yw clywed y synnau a ffroeni arogleuon ar safle mor amrywiol, o fara ffres yn y Becws a'r tannau agored yn y ffermdai i anifeiliaid y fferm.
- Mae aelod o staff wrth law yn y rhan fwyaf o'r adeiladau ac mae llawer o grefftau ac arddangosiadau i'w gweld ar y safle. Bydd yn bleser gan ein staff esbonio'r technegau a'r sgiliau i chi.
- Gall rhai rhannau o'r safle, fel y nant a'r llynnoedd, beri trafferth i bobl sydd â nam ar eu golwg. Gallwch holi am gyngor wrth y Dderbynfa cyn mynd allan i'r safle.
- Mae llawlyfrau print bras ar gael i'w benthyg am ddim. Gofynnwch wrth y fynedfa.
Pobl sy'n Drwm eu Clyw
- Ceir labeli clir ar y rhan fwyaf o'r eitemau yn yr orielau ac mae byrddau gwybodaeth mawr ger yr adeiladau i gyd.
Anawsterau Dysgu
- Mae'r arweinlyfr, sy'n cynnwys cynllun o'r safle, yn cyflwyno'r casgliad mewn ffordd glir a chryno sy'n cynnwys nifer o luniau a diagramau. Ceir mapiau mawr o'r safle yma a thraw yn yr amgueddfa.
Uned Lleoedd Newid
- Mae 'Uned Lleoedd Newid' ar gael yn yr Amgueddfa sy’n cynnwys gwely a theclyn codi trydanol (Molift) yn ogystal â'r tŷ bach a'r adnoddau eraill. Bydd angen allwedd 'radar' i gael mynediad i'r uned sydd ar gael trwy ofyn yn y Brif Fynedfa.
Cŵn
- Gallwch ddod â chŵn ar y safle ar yr amod eu bod yn cael eu cadw ar dennyn.
- Gallwch ofyn am ddŵr ar gyfer eich ci yn y bwyty, yn Oakdale ac yn y castell.
- Cynigir rhawiau baw i berchnogion cŵn wrth fynd i mewn i'r amgueddfa ac rydym ni'n gwerthfawrogi eich cydweithrediad i gadw'r amgueddfa yn lân ac yn ddiogel.
- Mae croeso i bobl sydd â nam ar eu golwg neu eu clyw ddod â'u cŵn tywys gyda nhw.
Cyfleusterau
- Gall pobl mewn cadeiriau olwyn fynd i'r prif fwyty a Caffi Bardi..
- Ceir toiledau ar gyfer ymwelwyr anabl wrth y Brif Fynedfa, ger bythynnod Rhyd-y-car ac yn Iard y Castell.
- Ceir cyfleusterau newid babanod ger y Brif Fynedfa.
Am resymau hanesyddol, nid yw ymwelwyr sydd ag anghenion arbennig yn gallu mynd i bob rhan o bob un o'n hamgueddfeydd. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i wella'r sefyllfa lle bo modd. Os oes gennych ryw awgrymiadau a allai ein helpu i wneud hyn, rhowch wybod i aelod o'r staff neu ysgrifennwch at: —
Claire Thomas, Swyddog Amrywiaeth, Amgueddfa Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP







