Creu Hanes yn Sain Ffagan

Cynllun cyffrous gwerth £20 miliwn i drawsnewid profiad ymwelwyr â Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yw ‘Creu Hanes’.
Mae Sain Ffagan wedi esblygu llawer ers agor fel amgueddfa werin dros 60 mlynedd yn ôl, ac rydym yn parhau i feddwl am ffyrdd o wella’r trysor cenedlaethol hwn.
Rydym am ymestyn llinell amser y straeon sy’n cael eu hadrodd yn yr Amgueddfa er mwyn i ymwelwyr allu dilyn datblygiad Cymru o ddyddiau’r bobl gyntaf i fyw yma, hyd heddiw ac ymlaen tua’r dyfodol.
Rydyn ni am glywed eich barn chi am y gwaith ailddatblygu, a gofynnwn yn garedig am eich adborth ar y cynlluniau presennol.

Yr hyn rydym yn gobeithio’i gyflawni
Ymestyn y llinell amser
Mae Sain Ffagan yn canolbwyntio ar hanes pobl Cymru dros y 500 mlynedd diwethaf ar hyn o bryd. Byddwn yn symud y casgliad archaeoleg cenedlaethol o’i gartref presennol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i Sain Ffagan. Mi fydd hyn yn ein galluogi ni i gyflwyno straeon y bobl gyntaf i fyw yng Nghymru 250,000 o flynyddoedd yn ôl a gosod stori Cymru a’i phobl yn ei chyd-destun yn nhermau hanes y byd.
Creu atyniad at bob tywydd
Yn ogystal â gwella’r profiad awyr agored yn Sain Ffagan byddwn yn datblygu’r ddarpariaeth dan do. Bydd yr orielau yn y prif adeilad yn cael eu hailwampio’n llwyr er mwyn creu mannau dysgu ac arddangos newydd a hyblyg, a bydd adeilad newydd sbon yn cael ei godi yn y coedwigoedd er mwyn i ymwelwyr gael profi hanes Cymru a’i thrysorau cenedlaethol.
Digwyddiadau
Bydd mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau i adlewyrchu’r llinell amser newydd gyda mwy o bwyslais ar roi cyfle i ymwelwyr gymryd rhan. Bydd cyfleoedd i brofi archaeoleg yn yr awyr agored ac rydyn ni'n awyddus hefyd i gynnig mwy o gyfleoedd i wirfoddolwyr yn ogystal â chydweithio’n agos â grwpiau cymunedol.
Cynnig ffyrdd newydd i ddeall hanes Cymru
Drwy awgrymu llwybrau gwahanol o gwmpas Sain Ffagan a diweddaru’r deunyddiau dehongli o gwmpas y safle, byddwn yn ei gwneud hi’n haws i ddarganfod mwy am agweddau penodol ar hanes Cymru a chynllunio ymweliad yn ôl gofynion amser a diddordeb.
Mwynhewch
Mae ein ymwelwyr yn ganolog i’r project hwn ac rydym am ddatblygu’r cyfleusterau er mwyn cynnig y profiad gorau posib. Bydd ardaloedd diogel i’n hymwelwyr ieuengaf allu dysgu wrth chwarae a llefydd bwyd a diod newydd. Bydd y gwelliannau dan do yn sicrhau bod Sain Ffagan yn amgueddfa i’w mwynhau gydol y flwyddyn, waeth beth fo’r tywydd.
O Fudd i Gymru
Gyda 600,000 yn ymweld pob blwyddyn, Sain Ffagan yw'r ail amgueddfa awyr-agored fwyaf poblogaidd yn Ewrop. Mae wedi dod yn gartref i hanes Cymru — yn ganolog i'r hunaniaeth Gymreig ac yn fangre arbennig ble mae pobl Cymru a thu hwnt yn dod ar bererindod er mwyn dysgu am stori Cymru.
Bydd y buddsoddi yn Sain Ffagan dros y 10 mlynedd nesaf yn adlewyrchu newid a chyfeiriad newydd cyffrous. Bydd yn adnewyddu statws Sain Ffagan fel atyniad sydd yn rhaid i ymwelwyr i Gymru ymweld ag ef - elfen hanfodol o dwristiaeth dreftadaeth yng Nghymru sydd o fudd i Gymru gyfan.
Yn ogystal â chael cefnogaeth y Llywodraeth, bydd y buddsoddiad cyffrous yma yn edrych am gefnogaeth ariannol y gymuned fusnes, cyrff dyfarnu grantiau ac unigolion sydd am gefnogi Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.

Creu Hanes Gyda'n Gilydd!
Dros y 10 mlynedd nesaf, byddwn gyda'ch cymorth chi yn datblygu Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru er mwyn sicrhau bod yr Amgueddfa yn ateb anghenion pobl Cymru heddiw.
Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, bydd project Creu Hanes yn ymgeisio am nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i weddnewid profiad yr ymwelydd drwy ailwampio'r prif adeilad yn llwyr, agor orielau a gofodau dysgu cyffrous newydd a gwella'r cyfleusterau i'n hymwelwyr.
Bydd y newidiadau canlynol yn cyflawni gweledigaeth newydd Sain Ffagan:
- adeiladau hanesyddol newydd i ddangos bywyd yng Nghymru Oes yr Haearn a’r Canol Oesoedd
- adeilad cynaliadwy newydd sbon gyda gofodau arddangos a gweithgaredd i arddangos sgiliau traddodiadol
- gwella mynediad i’r Castell a’r gerddi
- ardaloedd chwarae newydd
- ail-greu’r gwaith tirlunio yn y gerddi ar ochr ddeheuol y safle
- gwaith tirlunio a gwelliannau amgylcheddol i’r maes parcio.
Estyniad a newidiadau i’r Prif Adeilad, yn cynnwys:
- arddangosfeydd ac orielau llawn gweithgareddau
- Canolfan Addysg newydd i gynnal gweithgareddau, gweithdai ac i wella mynediad i’r casgliadau
- to ar yr iard bresennol er mwyn creu gofod cyfeirio croesawgar
- siop a chaffi newydd.
Rydyn ni am wybod eich barn chi am y gwaith ailddatblygu. Gobeithio y gallwch chi roi ychydig funudau i edrych ar y cynlluniau a gadael adborth isod.
Cynlluniau Pensaernïol (Cliciwch ar y llun i lawrlwytho'r PDF cyfan)
Adeilad Newydd (Cliciwch ar y delweddau i'w gweld yn fwy manwl)
Prif adeilad (Cliciwch ar y delweddau i'w gweld yn fwy manwl)
Anfon ebost
Digwyddiadau
Mae Sain Ffafagan : Amgueddfa Werin Cymru yn paratoi cynllun cyffrous i greu math newydd o amgueddfa.
Drwy ddefnyddio orielau, y tirlun a’n hadeiladau hanesyddol, byddwn yn cyfuno’r casgliadau archaeoleg a hanes i greu profiad ymwelwyr unigryw fydd yn gartref i hanes Cymru.
Creu Hanes: 1500-1700
Fel llawer o wledydd eraill, fe welodd Cymru newidiadau enfawr rhwng 1500 a 1700. Hwn oedd cyfnod brenhinoedd a breninesau’r Tuduriaid a’r Stiwardiaid, cyffro crefyddol; uno Cymru â Lloegr a rhyfeloedd cartref.
Teithiwch nôl mewn amser drwy gamu dros drothwy rhai o adeiladau Sain Ffagan; bydd ail-greadau yn dod â hanes yn fyw o flaen eich llygaid; dewch i weld gwrthrychau anhygoel o gasgliad yr Amgueddfa a gwrandewch ar sgyrsiau gan yr arbenigwyr. Byddwn yn rhoi cipolwg ichi ar rai o drobwyntiau hanes Cymru.
Fel rhan o’r paratoadau, bydd yr Amgueddfa’n arbrofi â chyfres o ddigwyddiadau sy’n adlewyrchu’r ddwy ganrif gythryblus rhwng 1500 a 1700.
Creu Hanes: 1500-1700
Mae’r arddangosfa hon yn uno’n casgliadau hanesyddol ac archaeolegol ni er mwyn i chi gael cipolwg ar rai o drobwyntiau hanes Cymru yn ystod y 200 mlynedd.
Bydd y cynllun Creu Hanes yn trawsnewid profiad ymwelwyr â Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Rydym ni’n ehangu’r ystod o straeon er mwyn i ymwelwyr allu dilyn datblygiad Cymru o ddyddiau’r bobl gyntaf i fyw yma.
Fe ddechreuwn ni trwy edrych ar y cyfnod OC 1500-1700 – cyfnod o newidiadau mawr.
Fel llawer o wledydd eraill y cyfnod, bu cryn dipyn o newid yng Nghymru rhwng OC 1500 a 1700. Dyma gyfnod y Tuduriaid a’r Stiwartiaid, gwrthdaro crefyddol, uno Cymru â Lloegr a rhyfel cartref.
Mae gwrthrychau'r arddangosfa'n cynnwys:
Ffigur Crog Cemais
Yng Nghymru tua 500 mlynedd yn ôl byddai cerfiadau tebyg i hwn i’w gweld ym mhob eglwys. Cafodd y ffigur crog ei ddarganfod tu ôl wal yn Eglwys Cemais, Sir Fynwy yn y 1800au. Rydyn ni’n gwybod am bedwar a oroesodd, a cafodd tair ohonynt eu darganfod yma yng Nghymru.
Murlun Santes Catherine
Bu’r ddelwedd yma yn cuddio dan haenau o wyngalch am ganrifoedd yn Eglwys Sant Teilo, Pontarddulais ger Abertawe. Daeth i’r golwg eto yn y 1980au.
Beibl 1588
Dyma’r Beibl Cymraeg cyntaf gafodd ei gyfieithu ym 1588. Cefnogodd y Frenhines Elisabeth I y cyfieithiad, nid er mwyn achub yr iaith ond i hyrwyddo Protestaniaeth ymhlith y Cymry.
Gwely Syr Rhys ap Thomas
Dyma un o’r gwelyâu pedwar postyn cynharaf o Gymru. Cafodd ei wneud 500 mlynedd yn ôl ar gyfer Rhys ap Thomas, un o’r Uchelwyr.
Cadair yr Ynad
Cyn 1600, roedd cadeiriau yn brin iawn. Byddai’r rhan fwyaf o bobl yn eistedd ar feinciau neu stolion, neu ar y llawr. Daw’r gadair hon o blasty pwysig Tre-gib yn Nyffryn Tywi, Sir Gâr, a ‘Chadair yr Ynad’ fu’r enw arni erioed. Ai Morgan ap John ap Harry o Dre-gib oedd perchennog y gadair hon? Bu’n Ynad Heddwch ym 1581 ac yn Siryf Sir Gâr ym 1602.
Arfwisg Ewenni
Cafodd yr arfwisg hon ei chuddio ar bwrpas mewn cae ym Mhriordy Ewenni, Bro Morgannwg. Mae’n bosib iddi gael ei chuddio yn ystod gwrthryfel Brenhinol 1646 gafodd ei arwain gan Syr Edward Carne, perchennog y tir ar y pryd.
Celc Tregwynt
Ym mis Medi 1996, cafodd un o gelciau ceiniogau mwyaf trawiadol Cymru ei ddarganfod gan Roy Lewis ym Mhlasty Tregwynt, gogledd Sir Benfro, wedi i’r tir gael ei lefelu er mwyn adeiladu cwrt tenis.
Creu Hanes: Cymryd Rhan!
Croeso i dudalennau ymgynghori Creu Hanes. Yma gallwch chi:
- Dysgu sut i gymryd rhan yn ein rhaglen ymgynghori
- Dweud eich dweud ac anfon eich sylwadau aton ni
Mae eich barn yn bwysig — felly ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth!
Newyddion
Mae'r Amgueddfa wedi bod yn llwyddiannus yng nghymal cyntaf proses nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL). Bydd y project nawr yn datblygu mewn dau gam. Bydd y cais terfynol yn cael ei gyflwyno i CDL yn nechrau 2012, ac os bydd yr Amgueddfa yn llwyddiannus, bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn 2013 gan obeithio cwblhau'r gwaith yn 2017. Mae'r amseroedd yma fodd bynnag yn dibynnu ar argaeledd ac amseriad nawdd.
Rydyn ni wrthi'n meddwl ar hyn o bryd beth ddylen ni ei arddangos yn ein horielau newydd. Rydyn ni wedi apwyntio tîm dylunio o benseiri, peirianwyr a chynllunwyr arddangosfeydd sy'n edrych ar opsiynau i wella'r safle.
Dweud eich dweud
Gallwch chi anfon e-bost at creuhanes@amgueddfacymru.ac.uk
Neu ysgrifennu aton ni:
Swyddfa Broject Creu Hanes: Ymateb ymholiad
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Caerdydd
CF5 6XB
Neu llenwch gerdyn sylwadau yn unrhyw un o'n hamgueddfeydd.
Bydd yr ymatebion ymholiad yn cael eu casglu a'u hystyried yn ofalus gan staff Amgueddfa Cymru. Byddwn yn ystyried eich barn wrth ddatblygu'n cynlluniau ar gyfer y safle a bydd eich ymatebion yn cyfrannu tuag at y cais terfynol i Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Gwneud Sain Ffagan yn berthnasol i chi!
- Gallwn gynnig cyfleoedd i unigolion, grwpiau neu sefydliadau i weithio gyda'r Amgueddfa i ddatblygu hanesion Cymru sy'n ‘canolbwyntio ar bobl'
- Helpwch ni i sicrhau bod y straeon rydyn ni'n eu hadrodd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn ddiddorol ac yn berthnasol i gymunedau sy'n byw yng Nghymru heddiw
- Creu cysylltiadau/partneriaethau gwaith cryfach â chymunedau lleol yng Nghymru.
- Cymrwch ran mewn lleoliadau gwirfoddol yn yr Amgueddfa. Dewch i ddysgu sgiliau newydd, cyfarfod pobl newydd a chael llawer o hwyl.
- Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru eich hangen chi! Dewch i gael hwyl drwy gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau newydd cyffrous i ddatblygu cynnwys eich amgueddfa CHI.














