Castell a Gerddi - Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Mae Castell Sain Ffagan yn adeilad rhestredig Gradd 1 ac yn un o'r maenordai Elisabethaidd gwychaf yng Nghymru.
Mae'r tu mewn yn dangos hanes y tŷ drwy bedair canrif. Yn ogystal â’r celfi gwreiddiol, arddangosir hefyd rhai o'r darnau gorau o gasgliad yr Amgueddfa o dai eraill .
Fe'i codwyd yn wreiddiol ym 1580 a chafodd llawer o'r tu mewn ei ailfodelu yn ystod y 19eg ganrif.

Mae'r stafelloedd wedi'u dodrefnu i adlewyrchu bywyd y teulu a fu'n byw yno ddiwedd y ganrif honno, sef yr Arglwydd Robert-Windsor (Iarll Plymouth yn ddiweddarach) a roddodd y Castell ynghyd â deunaw erw o dir i Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1946.
Mae'r Castell wedi'i amgylchynu â gerddi hardd gan gynnwys Gardd Eidalaidd (a grëwyd ym 1902 ac a'i adnewyddwyd yn 2003) a gardd teim. Mae hefyd llawer o nodweddion gwreiddiol i'r safle.
Mae pyllau pysgod, ffynhonnau, llwyn merwydd, gwinwydd-dy a gardd rosynnau cain yn ychwanegu dyfnder a lliw i dir yr Amgueddfa.
Y gerddi o bosibl yw cyfrinach fwyaf Sain Ffagan, o erddi’r bonedd i erddi’r bythynnod a roddai fwyd i deuluoedd oedd yn gweithio.
Maent yn cynnig darlun o fywydau pobl Cymru drwy hanes ac yn ategu'r adeiladau hanesyddol wrth ddarparu darlun o'r gorffennol.

