Sain Ffagan — Amgueddfa Fyw
[delwedd: Anifeiliaid fferm]
Crefftau a gweithgareddau traddodiadol sy'n bywiocáu Sain Ffagan.
Mae crefftwyr yn dangos eu doniau yn eu gweithdai ac fel arfer mae eu cynnyrch ar werth.
Mae rhywogaethau cynhenid o anifeiliaid fferm yn y meysydd a buarthau fferm yn Sain Ffagan ac mae tasgau bywyd fferm yn cael eu harddangos bob dydd.
[delwedd: ]
Ymwelwch â'r efail gof o'r 18fed ganrif lle cafodd ceffylau eu pedoli, pethau'r tŷ eu gwneud a'u trwsio a theiars metel eu rhoi ar olwynion troliau.
Gallwch weld ein gof preswyl yn defnyddio offer traddodiadol i wneud addurniadwaith o'r efail.
Mae'r Felin Wlân yn cynhyrchu siolau ysgwydd a charthenni Cymreig traddodiadol. Fe'i adeiladwyd ym 1760 ac mae'r broses gyfan o liwio'r cnu i orffen y garthen yn digwydd yma.
Mae Melin Ŷd Bompren yn nodweddiadol o felin sir Aberteifi a yrrir gan ddŵr. Fe'i adeiladwyd i droi ŷd yn flawd.
[delwedd: ]
Gallwch weld y rhod ddŵr gymhleth sy'n ei gyrru ar waith. Gwyliwch yr ŷd yn symud drwy wahanol adrannau'r felin a diweddu'n flawd.
Gwneir bara a chacennau blasus bob dydd ym Mhopty Derwen.
Mae Siop Gwalia, a godwyd yn wreiddiol ym 1880, yn gwerthu bwydydd Cymreig o’r safon uchaf. Uwchben y siop mae stafell de yn arddull y 1920au.
[delwedd: ]
Ewch i'r gweithdy crydd clocsiau o Garnhedryn ger Solfa yn Sir Benfro, neu beth am gael tynnu'ch llun wrth wisgo dillad a hetiau hanesyddol yn stiwdio ffotograffiaeth Moss-Vernon.
Llun sepia i gofio'ch amser yn Sain Ffagan!