St Fagans — a Living Museum

Anifeiliaid fferm

Crefftau a gweithgareddau traddodiadol sy'n bywiocáu Sain Ffagan. Mae crefftwyr yn dangos eu doniau yn eu gweithdai ac fel arfer mae eu cynnyrch ar werth.

Mae rhywogaethau cynhenid o anifeiliaid fferm yn y meysydd a buarthau fferm yn Sain Ffagan ac mae tasgau bywyd fferm yn cael eu harddangos bob dydd.

Ymwelwch â'r efail gof o'r 18fed ganrif lle cafodd ceffylau eu pedoli, pethau'r tŷ eu gwneud a'u trwsio a theiars metel eu rhoi ar olwynion troliau.

Efail gof

Gallwch weld ein gof preswyl yn defnyddio offer traddodiadol i wneud addurniadwaith o'r efail.

Mae'r Felin Wlân yn cynhyrchu siolau ysgwydd a charthenni Cymreig traddodiadol. Fe'i adeiladwyd ym 1760 ac mae'r broses gyfan o liwio'r cnu i orffen y garthen yn digwydd yma.

Yn y Gweithdy Cyfrwywr syml dwy stafell mae tresi, coleri a chyfrwyau'n cael eu gwneud. Fe'i adeiladwyd yn wreiddiol yn Sanclêr, sir Gâr ym 1926.

Mae Melin Ŷd Bompren yn nodweddiadol o felin sir Aberteifi a yrrir gan ddŵr. Fe'i adeiladwyd i droi ŷd yn flawd. Gallwch weld y rhod ddŵr gymhleth sy'n ei gyrru ar waith. Gwyliwch yr ŷd yn symud drwy wahanol adrannau'r felin a diweddu'n flawd.

Gweithdy Cyfrwywr

Gwneir bara a chacennau blasus bob dydd ym Mhopty Derwen. Mae Siop Gwalia, a godwyd yn wreiddiol ym 1880, yn gwerthu bwydydd Cymreig o’r safon uchaf. Uwchben y siop mae stafell de yn arddull y 1920au.

Gwyliwch arddangosiadau byw yn y Crochendy a phrynwch botiau wedi'u gwneud â llaw. A beth am gael tynnu'ch llun wrth wisgo dillad a hetiau hanesyddol yn stiwdio ffotograffiaeth Moss-Vernon Llun sepia i gofio'ch amser yn Sain Ffagan.

» Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Gwybodaeth

Map

Sain Ffagan, Caerdydd
Ar agor 10am–5pm bob dydd

Ffôn:
(029) 2057 3500
Parcio ceir: £3 y car y dydd. Nodwch bod yna beiriant arian ar y safle.

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

Amgueddfa Cymru — National Museum Wales