Uchafbwyntiau - Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
PWYSIG!
Ail-ddatblygu Sain Ffagan.
Mae ein orielau dan-do ar gau wrth ini adeiladu ardaloedd arddangos newydd ond mae'r adeiladau hanesyddol yn yr amgueddfa awyr-agored ar agor fel arfer. Mae'r tai crynion yn y Pentref Celtaidd wrthi'n cael eu dymchwel er mwyn ini osod y sylfeini ar gyfer adeilad arddangos eco-gyfeillgar newydd.
Mae Sain Ffagan wedi derbyn arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a Llywodraeth y Cynulliad i drawsnewid profiad yr ymwelydd. Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn agor oriel groeso a chyfleusterau ymwelwyr newydd, orielau newydd sbon ac yn codi adeiladau hanesyddol yn cynnwys un o lysoedd canoloesol tywysogion Gwynedd.




Taith o amgylch Cymru - o'r cyfnod Celtaidd hyd heddiw. Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.
Agorwyd Sain Ffagan i'r cyhoedd am y tro cyntaf oll ar 1 Gorffennaf 1948. Saif ynghanol gerddi godidog Castell Sain Ffagan, y plasty hardd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a gyflwynwyd fel rhodd i'r genedl gan Iarll Plymouth.
Yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf ailgodwyd dros 40 o adeiladau gwreiddiol o wahanol gyfnodau hanesyddol ar y parcdir 100 erw. Ymysg yr adeiladau mai tai, ffermdy, ysgol, capel a Sefydliad Gweithwyr ysblennydd.
Crefftau a gweithgareddau traddodiadol sy'n bywiocáu Sain Ffagan. Yn rhai o'r adeiladau mae crefftwyr wrth eu gwaith yn arfer eu crefftau traddodiadol. Yn aml mae modd prynu eu cynnyrch. Darllenwch fwy o straeon am ein casgliadau ar ein gwefan Rhagor.
Gellir gweld bridiau cynhenid o anifeiliaid a ffowls yng nghaeau a buarthau’r ffermydd, lle ceir hefyd arddangosiadau dyddiol o dasgau ffermio. Gall ymwelwyr gael cipolwg ar dreftadaeth a diwylliant cyfoethog Cymru, a gellir clywed Cymraeg yn cael ei siarad yn ddyddiol ymhlith y crefftwyr a’r dehonglwyr.
Gydol y flwyddyn, daw Sain Ffagan yn fyw – yn llythrennol – wrth i ni ddathlu gwyliau traddodiadol a digwyddiadau cerddoriaeth a dawns.
Mae Sain Ffagan yn archwilio pob agwedd o’r ffordd yr oedd pobl Cymru’n byw, gweithio ac yn hamddena. Fel cenedlaethau o ymwelwyr o’ch blaen, byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ein dathliad o draddodiadau a ffyrdd o fyw Cymreig.
Mae'r Amgueddfa yn y deg uchaf o restr atyniadau rhad ac am ddim y DU yn ôl pleidlais defnyddwyr TripAdvisor, gwefan adolygu teithiau mwyaf y byd.








