Adeiladau Hanesyddol Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Eglwys Sant Teilo

Mae dros ddeugain o adeiladau gwreiddiol o wahanol gyfnodau hanesyddol yng Nghymru wedi'u hailgodi ar ein parcdir can erw.

Edrychwch ar sut roedd ein hynafiaid o'r Oes Haearn yn byw yn ein Pentref Celtaidd. Mae'r tri thŷ crwn yno wedi'u seilio ar adfeilion adeiladau go iawn a ddarganfuwyd yng Ngwynedd, Sir y Fflint a Swydd Gaerwrangon. Y tu mewn gallwch weld offer tŷ bob dydd y Celtiaid .

Codwyd Eglwys Sant Teilo yn wreiddiol mewn camau gan ddechrau tua 1100 hyd 1520 ac fe'i symudwyd garreg wrth garreg i Sain Ffagan dros gyfnod o ugain mlynedd. Mae'n broject trawiadol ac adeilad hardd.

Tai gweithwyr haearn Rhyd-y-car

Mae'r ail-greu yn cymryd yr eglwys y tu hwnt i gof unrhywun byw i adeg pan oedd y tu mewn wedi’i addurno’n lliwgar gyda murluniau , peintiadau a cherfiadau.

Pa un ai technegau adeiladau traddodiadol, celf weledol, hanes cymdeithasol neu grefyddol sy'n mynd â'ch bryd, mae Sant Teilo bob amser yn cynnig profiad diddorol i'r ymwelydd (gwrandewch ar podcast ).

Mae Kennixton yn ffermdy nodweddiadol o Fro Gŵyr yn y de. Credid bod y waliau trawiadol sydd mor goch â gwaed yn fodd i'w amddiffyn rhag ysbrydion drwg fel yr aeron ar y griafolen a'r ffigyrau cerfiedig y tu ôl i'r drws ffrynt.

Teithiwch drwy amser wrth weld chwe chartref, eu cynnwys a'u gerddi yn newid o 1805 hyd 1985 yn nhai gweithwyr haearn Rhyd-y-car.

Edrychwch ar y stafelloedd, y celfi a'r gwrthrychau sy'n darlunio gwahanol gyfnodau o hanes Merthyr Tudful, crud y chwyldro diwydiannol ac un o'r trefi haearn pwysicaf yn y byd yn y 19eg ganrif.

Sefydliad y Gweithwyr

Cynhaliwyd rhychwant o ddigwyddiadau gan gynnwys dawnsfeydd, eisteddfodau, darlithiau gwleidyddol a sioeau dofednod yn Sefydliad y Gweithwyr yn Sain Ffagan a ddefnyddiwyd gan bob math o grwpiau a chymdeithasau.

Roedd Sefydliadau'r Glowyr a Neuaddau'r Gweithwyr yn ganolbwynt i weithgarwch cymdeithasol, addysgiadol a diwylliannol yn ardaloedd mwyaf diwydiannol Cymru.

Dim ond ychydig o uchafbwyntiau yw'r rhain ymhlith ystod wych o adeiladau hanesyddol ar safle Sain Ffagan sy’n cynnwys bythynnod a thai traddodiadol, capel, ysgol, gwahanol felinau, swyddfa bost , tanerdy a tholldy.

» Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Gwybodaeth

Map

Sain Ffagan, Caerdydd
Ar agor 10am–5pm bob dydd

Ffôn:
(029) 2057 3500
Parcio ceir: £3 y car y dydd. Nodwch bod yna beiriant arian ar y safle.

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

Amgueddfa Cymru — National Museum Wales