Cyflwyno Cymru i'r Byd

Mae enw da ein casgliadau'n tyfu ledled y byd.
Mae ein amgueddfeydd yn denu tua 1.5 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn. Daw hyd at un o bob deg ohonynt o'r tu allan i'r DU, ac rydym yn disgwyl i'r niferoedd gynyddu.
Gwaith rhyngwladol yw un o'n prif flaenoriaethau. Rydym yn tyfu proffil rhyngwladol Amgueddfa Cymru trwy nifer o brojectau a phartneriaethau, fel ein bod ni'n gallu hyrwyddo'n casgliadau ardderchog ledled y byd.
Rydym wedi bod yn cydweithio gyda Croeso Cymru ac adrannau eraill o fewn i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y daith o amgylch UDA o'r arddangosfa Turner i Cezanne: Campweithiau o Gasgliad Davies Amgueddfa Cymru, sy'n dangos asedau diwylliannol, hanesyddol ac amgylcheddol unigryw Cymru.
Arolwg gweledol trawiadol o esblygiad celfyddyd fodern– Cyfarwyddwr yr American Federation of Arts, Julia Brown

Mae'r Amgueddfa'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o hyrwyddo delwedd gadarnhaol o Gymru. Ar unrhyw adeg, mae cannoedd o weithiau celf ar fenthyg i amgueddfeydd ac orielau ledled y byd. Maent oll yn genhadon dros safon ragorol ein casgliadau cenedlaethol, ac maent yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer pobl sy'n caru celf a thwristiaid diwylliannol.
Bydd yr arddangosfa gyffrous a phwerus hon yn dal dychymyg y cyhoedd ac yn adrodd un o'r straeon gorau i'w hadrodd gan Gymru erioed
– Alun Ffred Jones AC, Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cynulliad Cymru
Ond mae projectau fel taith UDA, Gŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian 2009 a nifer o fentrau eraill yn dod â budd i Gymru gyfan, nid i'r sectorau diwylliant a thwristiaeth yn unig. Mae'n gwefan Rhagor yn dod a'n casgliadau'n fyw i gynulleidfaoedd byd eang, gan greu presenoldeb i Gymru ar lwyfan y byd.
Trefnir Turner i Cezanne: Campweithiau o'r Casgliad Davies ar y cyd gyda yr American Federation of Arts, sef corff dielw sy'n trefnu arddangosfeydd celf ledled y byd, yn cyhoeddi catalogau arddangosfeydd a datblygu rhaglenni addysgiadol.
Roedd y daith, a agorodd yn Amgueddfa Gelf Columbia ym Mawrth 2009 cyn symud i bedwar lleoliad arall dros gyfnod o 18 mis, eisoes yn llwyddiant mawr. Wnaeth cynnwys 58 peintiad eiconig o gasgliadau Gwendoline a Margaret Davies, yn cynnwys gweithiau gan Cezanne, Monet, Renoir, Millet, Manet a Turner. Dyma'r tro cyntaf erioed i rhai ohonynt cael eu gweld yn UDA o'r blaen.

Mae Gŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian, a sefydlwyd ym 1967, yn dathlu diwylliant gwerin ac mae'n denu miliwn o ymwelwyr o bob cwr o'r UDA a gweddill y byd. Eleni, gwahoddwyd Cymru i fod yn genedl wadd. Roedd dros gant o ymarferwyr, perfformwyr a chyflwynwyr unigol o Gymru yn cymryd rhan yn yr ŵyl, ac roedd tair o amgueddfeydd Amgueddfa Cymru – Sain Ffagan, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Wlân Cymru – yn cael eu cynrychioli yno.
Roedd yr ŵyl yn gyfle i godi proffil ac ymwybyddiaeth o Gymru ger bron cynulleidfa sydd, i raddau helaeth, yn llawn Americanwyr. Cynhelir yr ŵyl yn The Mall yn Washington D.C, a bydd yn cynnwys rhaglenni dyddiol o gerddoriaeth, canu a dawnsio, crefftau, sgiliau galwedigaethol ac arddangosiadau coginio, adrodd straeon, gweithdai a thrafodion.

Am fwy o wybodaeth am yr arddangosfa Turner i Cezanne a Gŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian ewch i Croeso Cymru.com.
Os hoffech ein cynorthwyo i hyrwyddo Cymru dramor, cysylltwch â Heledd Fychan.







