Teuluoedd - Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Mwynhewch yn yr ardal Hwyl i’r Teulu yn ystod y penwythnos yng Nghanolfan Capricorn ger yr Oriel.
Gall ymwelwyr ddangos eu sgiliau crefft gyda’r cert celf a’n blwch gwisg ffansi. Ymlaciwch gyda detholiad o lyfrau neu chwaraewch ein gemau bwrdd Rhufeinig gyda theulu a ffrindiau.
Mae’r gweithgareddau yn addas i blant o bob oedran a gall teuluoedd eu mwynhau gyda’i gilydd. Cynhelir amrywiaeth eang o ddigwyddiadau dros y gwyliau a hanner tymor yn y rhan hon o’r Amgueddfa hefyd. Mae taflenni gweithgareddau a theithiau ar gael o oriel yr Amgueddfa.
Mae’r Amgueddfa’n boblogaidd gan ymwelwyr o bob oedran ac yn dangos dysgu gydol oes ar ei orau. Profwch fywyd milwr Rhufeinig, trafodwch gopïau o arteffactau a gwisgo arfwisg. Mae ystafell y barics fel arfer ar gael wedi 3pm yn ystod tymor yr ysgol a drwy’r dydd yn ystod y penwythnosau a’r gwyliau.
Digwyddiadau
Ni ddaethpwyd o hyd i unrhywbeth.
Gallwch chi brynu detholiad o lyfrau Rhufeinig, rhoddion thematig a theganau arian poced yn siop yr Amgueddfa.
Gall yr Amgueddfa cynnal Partïon Plant.
Mae cyfleusterau newid babi ar gael.








