Teuluoedd ac Ysgolio Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ysgolion Rufain

Yma yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru rydym yn falch iawn o'n cyfleusterau addysgiadol ac ardal hwyl i'r teulu arobryn.

Yn y Canolfan Pegasws, yn yr Ardd Rufeinig, gall grwpiau addsygol gymryd rhan mewn sesiynau chwarae rhôl megis ysgolion Rhufain, meistri a chaethweision a meddyginiaeth Rufeinig. Defnyddir yr ardal hon ar gyfer digwyddiadau arbennig ac mae i'w gweld yn ystod Byw gyda'r Rhufeiniaid.

Defnyddir Canolfan yr Afr ar gyfer grwpiau addysgol ac ar benwythnosau mae'n troi'n ardal hwyl i deuluoedd.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Yma gall ymwelwyr ddefnyddio'r gert gelf a'r blychau gwisgo lan, chwarae â gemau bwrdd a theganau Rhufeinig neu ymlacio gyda detholiad o lyfrau.

Mae gweithgareddau sy'n addas i blant o bob oed. Mae'r ystod eang o weithgareddau hanner tymor a gwyliau hefyd yn digwydd yn y rhan hon o'r Amgueddfa.

Mae'n hailgread o farics yn edrych fel petai wyth milwr yn wir yn byw yno a newydd fynd i'w gwaith. Mae hyd yn oed yn gwynto o fwg.

Hailgread o farics

Mae'n boblogaidd gydag ymwelwyr o bob oed gan gymryd profiad addysg gydol oes i lefelau newydd. Fel rhan o ymweliadau addysgiadol a chyffredinol gallwch brofi bywyd fel milwr Rhufeinig.

Yma mae sesiynau trin a thrafod yn caniatáu i ymwelwyr gyffwrdd â chopïau o wrthrychau a gwisgo arfwisg. Gallwch archebu lle ar y sesiynau chwarae rhôl ac yn y barics fel rhan o ymweliad addysgiadol. Mae'r barics ar gael dros y penwythnos, yn ystod y gwyliau ac ar ôl y sesiynau ysgol bob dydd.

Gwelwch mwy am Addysg yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.

Gwybodaeth

Map

Caerllion
Ar agor 10am–5pm Llun–Sadwrn, 2pm–5pm Sul.

Ffôn:
(01633) 423 134

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

Amgueddfa Cymru — National Museum Wales