Llogi Cyfleusterau yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru




Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru wedi'i lleoli yng Nghaerllion, dafliad carreg o Gaerdydd, Bryste a Phont Hafren ac yn dangos bywyd bob dydd yn nghaer fwyaf pellennig Ymerodraeth nerthol Rhufain. Adeiladwyd yr Amgueddfa ym 1850 y tu mewn i weddillion muriau'r gaer sy'n cael ei dyddio i OC75, a gallwch weld adfeilion yr amffitheatr fwyaf cyflawn ym Mhrydain gerllaw.
Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn cynnig sawl lleoliad unigryw y gellir eu llogi yn ystod y dydd neu'r nos. Gyda Gerddi Rhufeinig, oriel Rufeinig ddiddorol a nifer o fannau cyfarfod, rydych yn siŵr o ganfod y lleoliad perffaith ar gyfer eich digwyddiad. Cliciwch y dolenni isod am wybodaeth bellach.
Bydd ein harlwywyr a'n tîm profiadol yn eich cynorthwyo i gynllunio a threfnu'ch digwyddiad bob cam o'r daith. Cliciwch yma i lawrlwytho bwydlen. Paratoir pob pryd gan ddefnyddio cynhwysion lleol ffres ar bob cyfle posibl a gellir gwneud newidiadau yn ôl y gofyn. Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch eich digwyddiad arbennig.
Bydd yr holl elw o Logi Cyfleusterau yn helpu i gynnal a chadw a gweinyddu'r Amgueddfa.
Gellir llogi Cyfleusterau ychwanegol yn cynnwys: Gazebo, gliniaduron, taflunwyr data, teledu, chwaraewyr DVD, System PA, siartiau troi, Wi-FI (mynediad i Wi-Fi at ddefnydd academaidd yn unig) a staff mewn gwisg o'r cyfnod.
Mae'n bleser gennym gynnig gostyngiad ar gyfradd llogi yn ystod y dydd i elusennau cofrestredig, cyrff addysg ffurfiol, grwpiau cymunedol a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Am wybodaeth bellach neu i wneud apwyntiad i ymweld â'r lleoliad gyda aelod o'n tîm Llogi Cyfleusterau cysylltwch â:
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Y Stryd Fawr
Caerllion
NP18 1AE
Ffôn: (029) 2057 3550
Ffacs: (029) 2057 3551







