Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Llechi
Gweithio Draamor - Llechi
Griffith Owen-Jones a'i wriag Kate
Griffith Owen-Jones a'i wriag Kate, a symudodd o Rhostryfan, Gwynedd i Granville, Talaith Efrog Newydd
Bangor, Pennsylvania
Bangor, Pennsylvania

Defnyddiwyd llechi fel deunydd toi yn Ewrop. Allforiwyd llechi o Gymru i bob cwr o'r byd ar gyfer projectau adeiladu pwysig. Roedd y ffaith i lechi gael eu darganfod mewn llawer o wledydd gwahanol yn un o nifer o ffactorau economaidd a barodd i weithwyr o Gymru symud i'r ardaloedd hynny.

Y gogledd-orllewin sy'n enwog am ei llechi, ac o'r ardal honno yr ymfudodd rhan fwyaf o weithwyr y diwydiant llechi. Rhwng 1845 ac 1851 gadawodd bron i 1,500 o bobl dref Bethesda a Llanberis am chwareli llechi Vermont, UDA. Roedd cymunedau llechi mawr yn nhaleithiau Pennsylvania ac Efrog Newydd hefyd, oedd yn troi o gwmpas tref Granville a Fair Haven. Roedd y diwydiant llechi yn ffynnu mewn o leiaf chwe thalaith arall, a Chymry oedd y rhan fwyaf o'r gweithwyr yno.

Roedd chwareli llechi yn Newfoundland, Canada a Tasmania, Awstralia hefyd, a llwyddodd y rhain i ddenu gweithwyr o Gymru o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen. Ymfudodd Richard Jones, rheolwr chwarel lechi o Fethesda i Prwsia (gogledd-ddwyrain yr Almaen) ym 1857.

David Jones

Chwarelwr o Gorris oedd David. Hwyliodd ar draws fôr Iwerydd ym 1880. Glaniodd yn Efrog Newydd a gwnaeth restr o lefydd eraill y gallai fynd iddynt ledled UDA a'r pris i deithio yno mewn doleri a phunnoedd. Dewisodd aros yn Nhalaith Efrog Newydd, gan weithio yn chwareli llechi Middle Granville.

Cyrchfannau o Efrog Newydd yn nyddiadur David Jones.
Cyrchfannau o Efrog Newydd yn nyddiadur David Jones.