
Addaswyd llawer o'r canolfannau haearn i greu dur, sy'n ddeunydd cryfach, mwy amlbwrpas. Nid yw'n syndod i'r Cymry wneud cyfraniad pwysig at y newid hwn.
Ym Middlesbrough, Lloegr, y cwmni Cymreig Bolckow Vaughan oedd prif gynhyrchydd dur y byd rhwng 1885 a 1914. Yn UDA, dechreuwyd cynhyrchu dur yn ogystal â haearn mewn canolfannau haearn fel Pennsylvania ac Ohio. Ym 1899, ymfudodd Samuel J. Evans, gweithiwr tunplat o'r Betws yn Sir Gâr, i Aliquippa, Pennsylvania lle bu'n gweithio yn y ffatri ddur yn gwneud gwaith rholio. Priododd â Bess Parry, a anwyd i rieni Cymreig yn Pennsylvania.
Gyda chymorth y gweithwyr Cymreig, datblygwyd diwydiannau dur yn Awstralia ac mewn gwledydd eraill. O ganlyniad, dirywiodd ein diwydiant dur ni wrth i'r galw am allforion leihau. Unwaith eto, bu'n rhaid i weithwyr o Gymru ymfudo i chwilio am waith yn y diwydiant, er bod llai o alw am eu sgiliau a'u technegau erbyn y 1950au am eu bod, i bob pwrpas, yn hen ffasiwn.
Philip Bowen Gibbon
Ganed Philip yng Nghaerdydd ym 1900 a threuliodd ei flynyddoedd cyntaf yng Nghwm Tawe. Fel dyn ifanc, treuliodd gyfnod yn gyrru craen yng ngweithfeydd dur Gilbertson ym Mhontardawe. Yn sgil dirywiad yn y gwaith cynhyrchu yno, penderfynodd ymfudo i Awstralia ym 1926. Yno, cafodd waith yng ngweithfeydd dur BHP yn Newcastle, New South Wales. Bu farw ym 1993.


