Gweithio Draamor - Enwau Llefydd
Pontypool, Tasmania
Pontypool, Tasmania
California, UDA
California, UDA
Kentucky, UDA
Kentucky, UDA
New South Wales, Awstralia
New South Wales, Australia

Roedd hi'n gyffredin i ymfudwyr o bob gwlad enwi eu haneddiadau newydd ar ôl llefydd yn eu mamwlad. Roedd hyn yn ffordd o ddathlu eu hunaniaeth a chadw cysylltiad â'u mamwlad.

Mae'n bosibl olrhain tarddiad llawer o enwau llefydd ym mhob cwr o'r byd drwy'r cysylltiadau â'r bobl a'u sefydlodd. Yn ardaloedd llechi Pennsylvania, UDA, enwodd Robert Jones dref Bangor ar ôl ei dref enedigol.

Aeth ati i annog llawer o bobl eraill o'r gogledd i ymfudo i'r ardal a gweithio yn ei chwareli llechi. Mae o leiaf pymtheg lle o'r enw Bangor yn UDA, tri yn Awstralia a phedwar yng Nghanada.

Mae tref Bryn Mawr, Pennsylvania yn gartref i goleg enwog, ond ni chafodd ei henwi ar ôl y dref ym Mlaenau Gwent. Un o Ddolgellau oedd sefydlydd y dref, Rowland Ellis, ac aeth ag enw fferm ei deulu gydag ef.

Mae rhai llefydd, fel Abertawe yn Ontario, Canada, wedi'u henwi felly am fod y dirwedd mor debyg i ardal y dref wreiddiol yng Nghymru.