

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, symudodd miliynau o bobl o bob cwr o'r byd i wledydd eraill i chwilio am waith. Roedden nhw am newid eu bywydau, blasu arferion gwaith newydd neu gael antur mewn gwlad wahanol.
Aeth llawer ohonyn nhw o Cymru â’n sgiliau diwydiannol traddodiadol gyda nhw. Helpodd rhai i greu llwyddiant economaidd parhaol yn eu gwledydd newydd. Aeth eraill ati i addasu eu sgiliau neu i ddysgu sgiliau newydd. Llwyddodd rhai i ennill arian a bri mawr. Cafodd eraill fywydau llwyddiannus mwy di-nod, gan ymgartrefu a magu teuluoedd. Daeth rhai noôl adref wedyn, ond ni welodd eraill eu mamwlad byth eto.
Yma byddwn yn dangos y gwahanol ddiwydiannau o Gymru a allforiodd weithwyr ac arbenigedd i bedwar ban y byd. Beth oedd y diwydiannau a'r sgiliau hyn? I le aeth y gweithwyr? Pam oedd pobl yn gadael, a sut? Pa werthoedd a thraddodiadau aeth gyda nhw? Pa effaith gafodd eu hymadawiad ar Gymru?

Roedd ein diwydiant glo'n llewyrchus dros ben tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Roedd y byd cyfan yn troi aton ni am arbenigedd a chyngor.
Wrth i wledydd eraill ddechrau datblygu eu heconomi eu hunain, aethant ati i fanteisio ar ffynonellau glo lleol. Roedd gan lowyr Cymru'r sgiliau allweddol, ac o ganlyniad fe'u cyfogwyd gan gwmnïau glo tramor. Cynigiwyd cyfogau hael iddynt i ddatblygu a rheoli pyllau glo tramor. Ffurfodd y glowyr gymunedau mawr ym meysydd glo Awstralia ac America.
Helpodd peirianwyr glo o Gymru i ddatblygu'r diwydiant yn Ne Affrica a hyd yn oed Tsieina, ac erbyn heddiw mae Tsieina'n cynhyrchu ac yn defnyddio mwy o lo nag unman arall yn y byd.
Aeth glowyr o Gymru i Loegr hefyd. Roedd yna gymuned fawr o Gymry yng Nghaint, lle datblygwyd y maes glo ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.
Yr ardaloedd pwysicaf lle'r aeth glowyr o Gymru I gynhyrchu glo oedd taleithiau Ohio a Pennsylvania yn UDA.
Tyfodd tref Scranton, Pennsylvania yn ganolbwynt i'r casgliad mwyaf o Gymry alltud. Mae llawer o enwau strydoedd yn adlewyrchu treftadaeth yr ardal, er enghraifft, Jones Street, Evans Court ac Eynon Street. Adeiladwyd llawer o gapeli yno yn y dull Cymreig. Roedd llawer o bobl yn siarad Cymraeg, ac roedd lle pwysig i'r iaith yn y capeli, mewn Eisteddfodau ac mewn papurau newydd.
Hyd yn oed os nad oedd cefnogwyr ariannol y pyllau'n Gymry neu o dras Gymreig, roedd yn well gan lawer ohonynt gyfogi rheolwyr profadol o Gymru. Yn eu tro, byddai'r rheolwyr yn tueddu i gyfogi glowyr Cymreig. Er i hyn feithrin teimlad cryf o frawdgarwch ymysg y gweithwyr o Gymru, gallai arwain at broblemau ymysg eu cydweithwyr o wledydd eraill.
Lewis Williams
Ganed Lewis yn Rhiw-fawr, ym mharthau uchaf Cwm Tawe. Glöwr oedd Williams a aeth i ddosbarth nos i astudio i fod yn oruchwylydd pwll. Cafodd e, a dau Gymro arall, eu recriwtio i weithio'r pwll glo modern cyntaf yn Tsieina. Teithiodd i Kaiping ym 1888 ac mae ei lythyrau adref yn dangos ei fod e'n mwynhau'r gwaith. Yn anffodus bu farw ym Mehefin 1889.
Joseph Pugh
Ganed Joseph ym Mhantygorlan, Ceredigion ym 1854. Mwyngloddiwr plwm oedd e a ymfudodd i UDA ym 1869. Daeth adref i Gymru ddwy flynedd yn ddiweddarach i weithio mewn pyllau glo yn Nowlais, Aberdâr a Chwm Rhondda tan 1880. Wedyn aeth nôl i Pennsylvania lle daeth yn enwog am suddo pyllau dwfn a phroffidiol. Bu farw ym 1903.

Mae pobl wedi bod yn mwyngloddio aur yng Nghymru'n ysbeidiol ers miloedd o fynyddoedd, ond ni chyfogodd y diwydiant lawer o weithwyr erioed. Serch hynny, ymunodd llawer o Gymry â'r 'Rhuthrau am Aur' enwog yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Denodd yr aur a ddarganfuwyd mewn ardaloedd o UDA, Canada ac Awstralia bobl o bedwar ban y byd. Methiant fu ymgais llawer ohonynt i ganfod aur, ac aethant ati'n hytrach i chwilio am waith arall neu hel eu pac. Llwyddodd ambell un i ennill bywoliaeth o aur; prin iawn oedd y bobl a wnaeth arian mawr ohono.
Ganwyd George Hall ger y Gelli Gandryll ym 1855. Datblygodd gadwyn y Gwalia o weithfeydd aur yng ngorllewin Awstralia yn y 1890au. Llwyddodd y gweithfeydd i wneud elw anferth i'w gyfogwyr ac enillodd Hall arian mawr iddo ef ei hun, er bod rhai o'i drafodion busnes braidd yn amheus.
Mae hanes Harry Jones o'r gogledd yn fwy nodweddiadol. Ymfudodd i Columbia Brydeinig, Canada ym 1862 gyda 'Chwmni'r Anturiaethwyr Cymreig'. Parhaodd i chwilio am aur yno nes iddo farw yn 95 oed yn y 1930au.
John and Rachel Price
Priododd John a Rachel yn Nowlais ym 1868 ac ymfudodd y pâr i Awstralia. Cawsant rywfaint o lwyddiant yn y meysydd aur, gan ddychwelyd adref ymhen 5 mlynedd. Gadawodd John £10 mewn banc yn Awstralia ond gwrthododd Rachel fynd nôl gydag ef, felly heliodd John ei bac a throi am Lerpwl i ddal ei long ar ei ben ei hun. Ond nid oedd yn gallu byw heb ei wraig ac aeth nôl ati i Ddowlais.

Cymru oedd yn arwain y diwydiant mwyndoddi copr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y gweithfeydd yn ardaloedd Abertawe a Threffynnon yn cynhyrchu mwy na hanner copr y byd i gyd.
Roedd diwydiant copr UDA yn fwy llwyddiannus o lawer na'r diwydiant yng Nghymru. Yn Awstralia roedd cyfenwad mawr o fwynau copr a arweiniodd at dwf y tref mwyndoddi yn ardal Spencer Gulf, de Awstralia o'r 1860au ymlaen. Ymfudwyr oedd y gweithwyr yn y dyddiau cynnar, ac roedd bron pob un yn hanu o ardal Abertawe.
Cymry oedd piau'r pwll a'r gwaith mwyndoddi yn Burra Burra, de Awstralia, a recriwtiwyd gweithwyr o ardal Casllwchwr a Llanelli. Yn y pendraw, sefydlu'r gweithfeydd mwyndoddi hyn fu'n bennaf gyfrifol am ddod â goruchafaeth ddiamheuol Abertawe ym marchnadoedd copr y byd i ben.
Wrth i ffynonellau copr ddechrau lleihau ym Mhrydain ac Ewrop, dechreuodd Abertawe fewnforio mwynau copr o wledydd fel Chile. Yn y 1860au helpodd gweithwyr mwyndoddi o Gymru i sefydlu gweithfeydd yn Chile ac erbyn heddiw, Chile yw un o gynhyrchwyr mwyaf y byd.
George Mitchell
Ganed George yn Abertawe ym 1864, a chafodd hyfforddiant yn y gweithfeydd copr lleol. Ymfudodd i UDA ym 1888 gan weithio mewn nifer o gwmnïau mwyngloddio a smeltio copr o amgylch y wlad. Roedd yn berchen ar fwyngloddiau ac eiddo o Fecsico i Alaska ond cafodd ei ddinistrio gan fethiant ysgubol ei waith smeltio copr anferth yn Swansea, Arizona.

Cymru oedd yn arwain y ffordd yn y gwaith o ddatblygu'r diwydiant haearn ym Mhrydain ac nid yw'n syndod felly mai ymfudwyr o Gymru oedd llawer o arweinwyr y diwydiant rhyngwladol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Daeth John Vaughan o waith haearn Dowlais yn rheolwr yn Newcastle upon Tyne, Lloegr. Yno cyfarfu â Henry Bolckow, cyfrifydd o'r Almaen. Mae'n debyg mai'r ddau oedd yn gyfrifol am sefydlu diwydiant haearn Cleveland.
Cyfogodd cwmni Bolckow Vaughan lawer o weithwyr Cymreig. Un o'r rhain oedd Edward Williams, wˆyr y bardd Iolo Morganwg. Aeth Williams ymlaen i brynu gwaith haearn arall a dod yn faer Middlesbrough.
Yn UDA, daeth Ohio a Pennsylvania'n ganolfannau pwysig i'r diwydiant haearn, gan ddenu llawer o Gymry. Ond nid pob un o'r unigolion hyn oedd wedi'u hyfforddi yn ffowndrïau Cymru. Yn ne Ohio sefydlwyd llawer o weithfeydd haearn gan ymfudwyr amaethyddol o Geredigion.
Tref haearn Hughesovska oedd enw gwreiddiol dinas fodern Donetsk yn yr Wcrain, ac fe'i sefydlwyd gan John Hughes o Ferthyr Tudful. Cyfogwyd llawer o Gymry yno o 1869 ymlaen nes iddyn nhw gael eu hel allan yn ystod Chwyldro Rwsia ym 1917.
Edward Thomas John
Ganed Edward ym Mhontypridd ym 1857, a symudodd i Middlesbrough i weithio fel rheolwr i gwmni Bolckow Vaughan. Dychwelodd i Gymru lle daeth yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Ddwyrain Sir Ddinbych rhwng 1910 a 1918. Roedd yn credu mewn hunanlywodraeth i Gymru a chasglodd ystadegau economaidd i ategu ei ddadl. Bu farw ym 1931.

Addaswyd llawer o'r canolfannau haearn i greu dur, sy'n ddeunydd cryfach, mwy amlbwrpas. Nid yw'n syndod i'r Cymry wneud cyfraniad pwysig at y newid hwn.
Ym Middlesbrough, Lloegr, y cwmni Cymreig Bolckow Vaughan oedd prif gynhyrchydd dur y byd rhwng 1885 a 1914. Yn UDA, dechreuwyd cynhyrchu dur yn ogystal â haearn mewn canolfannau haearn fel Pennsylvania ac Ohio. Ym 1899, ymfudodd Samuel J. Evans, gweithiwr tunplat o'r Betws yn Sir Gâr, i Aliquippa, Pennsylvania lle bu'n gweithio yn y ffatri ddur yn gwneud gwaith rholio. Priododd â Bess Parry, a anwyd i rieni Cymreig yn Pennsylvania.
Gyda chymorth y gweithwyr Cymreig, datblygwyd diwydiannau dur yn Awstralia ac mewn gwledydd eraill. O ganlyniad, dirywiodd ein diwydiant dur ni wrth i'r galw am allforion leihau. Unwaith eto, bu'n rhaid i weithwyr o Gymru ymfudo i chwilio am waith yn y diwydiant, er bod llai o alw am eu sgiliau a'u technegau erbyn y 1950au am eu bod, i bob pwrpas, yn hen ffasiwn.
Philip Bowen Gibbon
Ganed Philip yng Nghaerdydd ym 1900 a threuliodd ei flynyddoedd cyntaf yng Nghwm Tawe. Fel dyn ifanc, treuliodd gyfnod yn gyrru craen yng ngweithfeydd dur Gilbertson ym Mhontardawe. Yn sgil dirywiad yn y gwaith cynhyrchu yno, penderfynodd ymfudo i Awstralia ym 1926. Yno, cafodd waith yng ngweithfeydd dur BHP yn Newcastle, New South Wales. Bu farw ym 1993.

Defnyddiwyd llechi fel deunydd toi yn Ewrop. Allforiwyd llechi o Gymru i bob cwr o'r byd ar gyfer projectau adeiladu pwysig. Roedd y ffaith i lechi gael eu darganfod mewn llawer o wledydd gwahanol yn un o nifer o ffactorau economaidd a barodd i weithwyr o Gymru symud i'r ardaloedd hynny.
Y gogledd-orllewin sy'n enwog am ei llechi, ac o'r ardal honno yr ymfudodd rhan fwyaf o weithwyr y diwydiant llechi. Rhwng 1845 ac 1851 gadawodd bron i 1,500 o bobl dref Bethesda a Llanberis am chwareli llechi Vermont, UDA. Roedd cymunedau llechi mawr yn nhaleithiau Pennsylvania ac Efrog Newydd hefyd, oedd yn troi o gwmpas tref Granville a Fair Haven. Roedd y diwydiant llechi yn ffynnu mewn o leiaf chwe thalaith arall, a Chymry oedd y rhan fwyaf o'r gweithwyr yno.
Roedd chwareli llechi yn Newfoundland, Canada a Tasmania, Awstralia hefyd, a llwyddodd y rhain i ddenu gweithwyr o Gymru o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen. Ymfudodd Richard Jones, rheolwr chwarel lechi o Fethesda i Prwsia (gogledd-ddwyrain yr Almaen) ym 1857.
David Jones
Chwarelwr o Gorris oedd David. Hwyliodd ar draws fôr Iwerydd ym 1880. Glaniodd yn Efrog Newydd a gwnaeth restr o lefydd eraill y gallai fynd iddynt ledled UDA a'r pris i deithio yno mewn doleri a phunnoedd. Dewisodd aros yn Nhalaith Efrog Newydd, gan weithio yn chwareli llechi Middle Granville.

Mae gan Gymru 1,200km (750 milltir) o arfordir a hanes morwrol hir. Teithiodd morwyr o Gymru dros y byd i gyd yn allforio nwyddau o Gymru ac yn mewnforio deunyddiau crai ar gyfer diwydiant. Roedd llongau Cymreig ymysg y mwyaf adnabyddus ym maes masnach forwrol ac roedd perchnogion y cwmnïau ymysg y bobl fwyaf cefnog.
Gan fod gogledd Cymru mor agos at y porthladd mawr yn Lerpwl, nid yw'n syndod mai Cymry oedd llawer o berchnogion llongau mawr y ddinas. Un o Sir Gâr oedd Syr Alfred Lewis Jones yn wreiddiol, a dechreuodd weithio fel prentis i'r African Steamship Company ym 1857 pan oedd yn 12 oed. Erbyn 1900 roedd yn berchen ar ran fwyaf y cwmni. Sefydlodd Ysgol Meddygaeth Drofannol Lerpwl.
Oherwydd natur eu gwaith, teithiodd morwyr o Gymru i bedwar ban byd ac ymgartrefodd llawer ohonyn nhw mewn gwledydd eraill. Teithiodd William Jones o Niwbwrch, Môn i Awstralia ar longau ei ewythr, ac ymgartrefodd yn Burnie, Tasmania ym 1872 pan oedd yn 30 oed. Daeth yn berchennog llongau a diwydiannwr enwocaf yn yr ardal maes o law.
William Thomas
Ganed William yn Llanrhuddlad, Môn ym 1837. Symudodd i Lerpwl i fod yn glerc ym 1854 a chwe blynedd yn ddiweddarach roedd ganddo'i gwmni llongau ei hun, er ei fod yn casáu hwylio ei hun. Cadwodd gysylltiad cryf â’r gogledd a Môn ond daeth yn Faer Bootle ym 1892 a 1899. Bu farw ym 1915.

Roedd y gweithwyr Cymreig yn enwog am eu harbenigedd ym maes mwyngloddio. Yn ogystal â glo, roedden nhw'n gallu cloddio am aur, haearn, plwm a chopr.
Wrth i ffniau agor mewn gwledydd oedd yn datblygu, roedd mwynwyr o Gymru'n arwain y ffordd. Yn ogystal â'r mwynwyr, Cymry oedd rhai o reolwyr a pheirianwyr mwyngloddio mwyaf profadol y byd. Roedden nhw'n ennill cyfogau da oherwydd y galw mawr am eu sgiliau.
O Gernyw y daeth y mwyafrif o fwynwyr y gweithfeydd metel yng ngorllewin UDA, gyda mwynwyr o Gymru'n ail da iddynt.
Datblygwyd rhai o fwyngloddiau metel India a De Affrica gan Gymry ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y ddwy wlad yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig ar y pryd, ac oherwydd y dirywiad yn y diwydiannau plwm yng Nghymru, roedd llawer o'r gweithwyr yn chwilio am gyfeoedd newydd.
Yn eu hymgais i ddod o hyd i fwyn copr, agorodd rhai cwmnïau Cymreig fwyngloddiau newydd yn Newfoundland, Canada a Cape Colony, De Affrica.
Watkin Cynlais Price
Ganed Watkin yng Nghwmllynfell tua 1839. Ymfudodd fel glöwr i Scranton, Pennsylvania i gychwyn, ond erbyn 1860 roedd wedi symud i California ac wedyn i Golumbia Brydeinig adeg y rhuthr am aur. Bu'n enillydd cyson yn eisteddfodau'r maes aur ac roedd yn arwain côr Cymreig. Yn ôl y cofnodion, roedd yn dal i chwilio am aur ym 1887.

Cymru hefyd oedd un o brif gyfenwyr y byd ym maes cynhyrchu tunplat. Ar ddechrau'r 1890au cynhyrchwyd dros 80% o dunplat y byd yn ne Cymru.
Wynebodd y diwydiant yng Nghymru argyfwng ym 1891 pan gyfwynodd UDA Tariff McKinley. Codwyd y tariff hwn ar nwyddau oedd yn cael eu mewnforio er mwyn sicrhau na allent gystadlu â'r nwyddau a gynhyrchwyd yn America. Bu'n rhaid i lawer o weithfeydd yng Nghymru gau dros dro neu gynhyrchu llai a diswyddo gweithwyr. Yr un pryd, cynyddodd y galw am weithwyr tunplat medrus yn America, gan arwain at lawer o ymfudo.
Cyfarfu Lewis a David John Thomas, gweithwyr tunplat o Bantyffynnon, Sir Gâr â'u ffrindiau am y tro olaf ym 1895. Cofnodwyd y cyfarfod yn y cyfnodolyn Industrial World:
'There's no need to say where the two brothers were heading, because so many of the Alcan-workers of Wales are heading west, just as the cockles congregate on Penclawdd beach... Many Welsh have left their native land for America, and that for various reasons...'
John Williams
Ganed John yng Nghaerllion ym 1854 ac aeth i weithio yng ngweithfeydd tunplat Pontymister yn 10 oed. Treuliodd gyfnodau'n gweithio yn Workington (Lloegr), Pimbino (yr Eidal), Dos Convives (Sbaen), Syova (Siberia, Rwsia) yn ogystal â Gilwern, Nant-yglo, Llanelli, yr Wyddgrug a Phontardawe. Cymrodd ymddeoliad yn 70 oed, a bu farw yn ei nawdegau.

Nid pawb yng Nghymru oedd yn gweithio yn y diwydiannau trwm 'traddodiadol' wrth gwrs. Roedd llawer yn gweithio mewn diwydiannau eraill ac aethant ati i drosglwyddo'r sgiliau roedden nhw wedi eu dysgu mewn pyllau, ffowndrïau a gweithfeydd i weithleoedd eraill. Aethant â'u sgiliau dramor hefyd, gan adael eu hôl ar wledydd eraill.
Mae'n ymddangos bod lletygarwch Cymreig wedi teithio'n dda wrth i sawl bar a thafarn gael eu rheoli gan Gymry. Enwyd Ynys Ellis yn Efrog Newydd, lle daeth miliynau o ymfudwyr i dir America am y tro cyntaf, ar ôl Samuel Ellis, Cymro oedd yn berchen ar dafarn yno yn y ddeunawfed ganrif.
Daeth y Cymry alltud hyn yn enwog am feithrin athrawon, pregethwyr a gwleidyddion yn eu cymunedau. Magwyd William Morris Hughes, seithfed Prif Weinidog Awstralia, ar fferm ei fodryb yn Llandudno. Symudodd William Meirion Evans, chwarelwr llechi o Wynedd, i fwyngloddiau copr de Awstralia. Fe oedd y Cymro cyntaf i fynd yn bregethwr ar y cyfandir. Ar ôl cael ei ordeinio fel gweinidog yn UDA, dychwelodd i Awstralia lle parhaodd i bregethu yn ogystal â golygu dau bapur newydd Cymraeg.
Morgan Jones
Born in Tregynon, Montgomeryshire in 1839, Jones worked for seven years for the Cambrian Railway Company. In 1866 he emigrated to the USA and worked on the first transcontinental railroad. He became a legend in the States for his skill and drive, completing seemingly impossible constructions in record time. He died aged 86 in Abilene, Texas.

Nid pawb a adawodd Gymru am fywyd newydd dramor ffarweliodd â'u mamwlad am byth. Daeth llawer o bobl adref am bob math o resymau. Yr enw am hyn yw mudo yn ôl.
Yn y Porth, Cwm Rhondda, mae ardal a elwir yn 'America Fach.' Roedd llawer o drigolion yr ardal yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi treulio cyfnod yn byw yn UDA cyn troi am adref. Enw'r dafarn leol yw The New York.
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ymfudodd canran is o bobl Cymru o'i chymharu ag Iwerddon, yr Alban a Lloegr. Daeth mwy o Gymry adref hefyd. Mae amryw o resymau am hyn. Mae'n debyg bod y lefelau uchel o gyfogaeth ddiwydiannol yng Nghymru yn galluogi mwy o bobl i ddod adref yn ystod cyfnodau o ffyniant economaidd.
Damcaniaeth arall yw hiraeth yn eu tynnu nôl. Mae'n debyg bod rhai pobl wedi cael blas ar symud. Gadawodd llawer o bobl Gymru am gyfnod byr cyn dod adref, dim ond i adael am wlad wahanol wedyn.
Wrth symud dramor i chwilio am waith byddai'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod ymlaen llaw i ble roedden nhw'n mynd. Yn aml iawn roedd swydd yn disgwyl amdanyn nhw, teulu a ffrindiau yno'n barod a chymuned o bobl o'u mamwlad. Ond weithiau, bydden nhw'n symud ymlaen eto, mwy nag unwaith efallai, cyn ymgartrefu mewn un lle. Ymfudo fesul cam yw'r enw am hyn.
Ganwyd Abraham T. Lewis ym 1840 ym Mrymbo, tref haearn a glofaol ger Wrecsam. Symudodd i Hanley, Sir Stafford, wedyn i Shenandoah, Pennsylvania, UDA, oedd hefyd yn dref glofaol. Ym 1879 symudodd i Russell Gulch, tref mwyngloddio arian yn Colorado. Yn ddiweddarach symudodd i'r gogledd i Washington Territory ac yna i Nanaimo, Canada. Ailgydiodd yng ngwaith y glöwr yno, a bu farw mewn ffrwydrad ym 1887.
Roedd hi'n gyffredin i un aelod o deulu fynd dramor ac i'r lleill ddilyn ar ôl iddo ddod o hyd i waith a chartref. Ymfudo cadwyn yw'r enw am hyn. Byddai'r gwragedd a'r plant yn teithio misoedd neu hyd yn oed fynyddoedd ar ôl y dynion yn aml iawn. Weithiau byddai brodyr, chwiorydd, rhieni, ffrindiau a chymdogion yn cael eu perswadio i ymfudo yn sgil newyddion o dramor.
Rees Bevan
Aeth David Bevan o Aberdâr i chwilio am aur yng Ngholorado ym 1880. Ymunodd ei frawd bach Rees ag ef ym 1882. Tynnwyd ffotograffau o'r ddau yn Denver i'w hanfon adref. Symudodd David i Awstralia, ac eto, dilynodd Rees ym 1888. Mae David yn diflannu o'r cofnodion yn fuan wedyn, ond daeth Rees yn rheolwr pwll glo yn Thirroul, New South Wales.

Roedd gweithwyr diwydiannol o Gymru'n dod o ardaloedd lle'r oedd yr undebau llafur trefnus iawn. Roedden nhw'n adnabyddus am sefyll dros eu hawliau, amodau gwaith diogel a chyfogau teg. Wrth adael eu mamwlad i chwilio am waith aethon nhw â'r rhinweddau hynny – a'r parodrwydd i frwydro – gyda nhw.
Ymfudodd John Owens i Ohio o Gwm Clydach pan oedd yn blentyn yn y 1890au. Collodd un o'i goesau mewn damwain ac aeth ati i gadw'n brysur trwy weithio dros yr undeb. Erbyn diwedd y 1930au roedd yn llywydd yr United Mine Workers of America yn Ohio. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd daeth yn Drysorydd Ysgrifennydd Rhyngwladol yr UMWA, gan aros yn y swydd tan 1970. Owens fu'n gyfrifol am greu'r system iechyd a lles gyntaf ar gyfer gweithwyr UDA.
Radicaliaeth Gymreig gafodd y bai am y trafferthion yn y diwydiant ceir Prydeinig ddiwedd y 1970au, er bod y rhan fwyaf o'r ffatrïoedd y tu allan i Gymru. Roedd llawer o'r gweithwyr yn y ffatrïoedd cynhyrchu ceir yn Rhydychen a Birmingham yn hanu o Gymru. Roedden nhw wedi ymfudo i chwilio am waith wrth i'n diwydiannau traddodiadol ddioddef yn sgil y dirwasgiad economaidd cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Yn America cymerodd rhai cyfogwyr yn erbyn gweithwyr o Gymru oherwydd eu henw am fod yn flwriaethus.
Mary Thomas (O'Neil)
Ganed Mary yng nghwm Ogwr ym 1887. Aeth i UDA ym 1913 gyda'i dau blentyn, i chwilio am ei gŵr, glöwr oedd wedi mynd â’i gadael hi. Bu'n rhan o 'Gyflafan Ludlow' yn ystod streic glowyr Colorado ym 1914, a hi oedd yr unig fenyw i gael ei harestio. Teithiodd ar hyd a lled y wlad i ddenu cefnogaeth i'r glowyr oedd yn streicio, gan annerch yr Arlywydd hyd yn oed.

Fel llawer o ymfudwyr eraill, aeth y Cymry â'u diwylliant i'r gwledydd newydd gyda nhw. Mewn lle dieithr a newydd, roedd cadw caneuon, straeon, ieithoedd a thraddodiadau cyfarwydd yn helpu ymfudwyr i ymdopi â'r anghyfarwydd.
Y capel oedd canolbwynt y bywyd Cymreig mewn llawer o dref a phentref. Yn ogystal â'u swyddogaeth grefyddol, defnyddiwyd y capeli fel neuaddau cymunedol, canolfannau lles a llochesau dros dro i newydd¬ddyfodiaid. Yn aml iawn, roedd pensaernïaeth capeli Cymreig dramor yn debyg iawn i'r capeli gartref.
O ganlyniad i'r Ysgol Sul a'r arfer o ddarllen y Beibl, roedd lefelau uchel o lythrennedd ymysg yr ymfudwyr Cymreig. Roedd y Gymraeg yn fyw ym mhob cymuned lle'r oedd llawer o Gymry wedi ymgartrefu, ac yn cael ei throsglwyddo i'r cenedlaethau nesaf. Dechreuwyd cyhoeddi Y Drych ym 1851, un o nifer o bapurau newydd Cymraeg ar gyfer Americanwyr.
Yr Eisteddfod yw uchafbwynt dathliadau diwylliannol Cymraeg a Chymreig, ac roeddent yn gyffredin iawn mewn tref lle'r oedd cymunedau Cymreig ym mhob cwr o'r byd.

Er taw dynion oedd y mwyafrif o'r gweithwyr diwydiannol, roedd menywod yn bwysig iawn i'r cymunedau mudol. Yn aml iawn, byddai'r dynion yn teithio i wlad newydd ar eu pennau eu hunain i gael gwaith a sefydlu cartref. Byddai'r gwragedd a'r plant yn dilyn wedyn. Yn y cyfamser, bu'n rhaid i'r gwragedd gynnal eu hunain a'u plant. Roedd menywod yn amlwg iawn yn y gwaith o drefnu gweithgareddau cymunedol fel Eisteddfodau, addysg a diwygiadau cymdeithasol.
Roedd rhai menywod yn gweithio ym maes diwydiant. Yng Nghymru, cyfogwyd llawer o fenywod mewn gweithfeydd tunplat. Ym 1895 cyfogodd gweithfeydd Tunplat Monongahela yn Pittsburgh, Pennsylvania ymfudwraig o Gymru o'r enw Hattie Williams i hyfforddi menywod i wneud yr hyn a ystyriwyd yn waith dynion. Arweiniodd hyn at brotestio yma ac yn UDA.
Roedd menywod yn cyfrannu at fywyd masnachol mewn ffyrdd eraill hefyd. Yn Seland Newydd, llwyddodd Mary Jane Innes (Lewis gynt) o Lanfaches, Sir Fynwy i reoli bragdy ei diweddar ŵr am fynyddoedd lawer.

Roedd hi'n gyffredin i ymfudwyr o bob gwlad enwi eu haneddiadau newydd ar ôl llefydd yn eu mamwlad. Roedd hyn yn ffordd o ddathlu eu hunaniaeth a chadw cysylltiad â'u mamwlad.
Mae'n bosibl olrhain tarddiad llawer o enwau llefydd ym mhob cwr o'r byd drwy'r cysylltiadau â'r bobl a'u sefydlodd. Yn ardaloedd llechi Pennsylvania, UDA, enwodd Robert Jones dref Bangor ar ôl ei dref enedigol.
Aeth ati i annog llawer o bobl eraill o'r gogledd i ymfudo i'r ardal a gweithio yn ei chwareli llechi. Mae o leiaf pymtheg lle o'r enw Bangor yn UDA, tri yn Awstralia a phedwar yng Nghanada.
Mae tref Bryn Mawr, Pennsylvania yn gartref i goleg enwog, ond ni chafodd ei henwi ar ôl y dref ym Mlaenau Gwent. Un o Ddolgellau oedd sefydlydd y dref, Rowland Ellis, ac aeth ag enw fferm ei deulu gydag ef.
Mae rhai llefydd, fel Abertawe yn Ontario, Canada, wedi'u henwi felly am fod y dirwedd mor debyg i ardal y dref wreiddiol yng Nghymru.


