Cloddio a Gwaith Maes
Cloddio yw'r prif ddull o ehangu'r casgliadau archaeolegol; gall edrych ar ardaloedd gwan a datblygu ardaloedd o gryfder, gan sicrhau swyddogaeth barhaus a photensial y casgliadau at y dyfodol. Mae projectau gwaith maes yn darparu cyd-destun hanfodol (lleol, cenedlaethol a rhyngwladol) ar gyfer arteffactau neu gasgliadau, elfennau allweddol ar gyfer arddangos ac ymchwilio. Ychwanegiad diweddar i'n rhaglen gwaith maes yw ymchwiliad mannau darganfod trysor posibl, sydd yn angenrheidiol ar gyfer paratoi adroddiadau ar gyfer y Crwner. Mae cloddfeydd ymchwil yn newyddion diddorol ac yn darparu proffil uwch i'n gwaith. Mae gwaith maes yn gwneud cyfraniad bywiog i ddysg a rhaglenni creadigol a phrosiectau cymunedol.
- Arolwg a chloddfa Mynydd Rhiw
- Caerwent – Venta Silurum : cloddio tref Rufeinig
- Chwarel Cerrig Oes Efydd Gynnar Cwm Mawr
- Crannog Llan-gors – capsiwl amser Canol Oesol cynnar
- Gwaith maes Archaeolegol Llanfaes, Bro Morgannwg
- Ogofau Bontnewydd a Dyffryn Elwy
- Ogofau Sir Benfro
- Project Cerdded Maes Fferm Cophill, Cas-gwent
- Safle Mesolithig Cynnar a Chynhanesyddol diweddarach Burry Holms, Gŵyr