Caerllion - Canfod ceiniogau Rhufeinig
Staff: Edward BeslyBydd catalog terfynol yn cael ei greu am y ceiniogau Rhufeinig a ganfuwyd yng nghaer yr Ail Leng Awgwstaidd. Bydd dosbarthiad a natur y canfyddiadau o gymorth wrth ddehongli'r gaer, yn arbennig camau hwyraf y feddiannaeth yn y drydedd a'r bedwaredd ganrif OC.
