Yr Adran Archeoleg a Niwmismateg - Projectau Ymchwil

'Mae angen i Gymru wybod am ei gorffennol. Mae deall hanes diwylliant yn hanfodol i'w thwf a datblygiad parhaus. Mae agenda Cymru'n Un Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi pwyslais ar ddathlu a chadw ein treftadaeth ardderchog – ac mae'n rhaid i wybodaeth fod yn sail i hyn.'
Cyflwyno Fframwaith Ymchwil ar gyfer Archeoleg Cymru, 2008

Mae ymchwil yn rhan sylfaenol o waith yr Adran, ac mae'n cwmpasu ystod eang o weithgareddau, o ddadansoddi arteffactau unigol i gloddio safleoedd newydd a chyhoeddi adolygiadau o archaeoleg yng Nghymru. Mae rhaglen weithgar o gloddfeydd ymchwil ledled Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf wedi cynorthwyo i ddatblygu rhai meysydd casglu a darparu cyd-destun ar gyfer casgliadau newydd a chyfredol.

Dengys ein harddangosfa newydd Gwreiddiau: chwilio am Gymru gynnar yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gyfraniad ymchwil i ddealltwriaeth a dehongliad y casgliadau sy'n cael eu harddangos. Bydd strategaeth ymchwil newydd yr Adran, sy'n cael ei ddatblygu yn 2008, yn edrych ar flaenoriaethau ein Gweledigaeth, a hefyd yn ystyried fframwaith ymchwil archaeoleg Cymru, a gynhyrchwyd yn dilyn ymgynghoriad helaeth ac a gyhoeddwyd yn 2008. Bydd ein rhaglen ymchwil hefyd yn sail i ddatblygiad Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

Mae'r Adran Archeoleg a Niwmismateg ar yn o bryd yn cyfranogi mewn ymchwil o fewn y themâu eang canlynol: