[delwedd: Ymchwil Archaeoleg]
Mae ymchwil yn rhan sylfaenol o waith yr Adran, ac mae'n cwmpasu ystod eang o weithgareddau, o ddadansoddi arteffactau unigol i gloddio safleoedd newydd a chyhoeddi adolygiadau o archaeoleg yng Nghymru. Mae'r Adran ar yn o bryd yn cyfranogi mewn ymchwil o fewn y themâu eang canlynol:
[delwedd: Ymchwil Bioamrywiaeth a Bioleg Systematig ]
Mae'r Adran Bioamrywiaeth a Bioleg Systematig wedi'i gosod yn chwe adran, lle mae gan ein staff arbenigedd benodol. Mae'r Adran yn ganolfan tacsonomaidd arbenigol, yn defnyddio'i arbenigedd a chasgliadau cynhwysfawr Prydeinig a rhyngwladol i gefnogi tacsonomeg ac ymchwil systematig yng Nghymru, y DG ac yn rhyngwladol.
[delwedd: Ymchwil Diwydiant]
Hyd yn gymharol ddiweddar, roedd gwaith ymchwil yr Adran Diwydiant wedi'i ddominyddu gan brif ofynion o gynhyrchu deunydd ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, a agorodd yn 2005. Golyga canlyniad llwyddiannus y gwaith fod curaduron unwaith eto wedi medru troi eu meysydd arbenigedd penodol i gynhyrchu rhaglen ymchwil amrywiol.
[delwedd: Ymchwil Ddaeareg]
Mae prif raglen ymchwil yr Adran Ddaeareg wedi'i rannu yn ddeg thema, lle mae gan ein staff arbenigedd benodol, ac yn medru gwneud cyfraniadau o bwysigrwydd rhyngwladol.
- The treatise on invertebrate paleontology
- Cadwraeth casgliadau daearegol
- Hanes Daeareg
- Hinsawdd y Gorffennol
- Mwyneiddiad yng Nghymru
- Petroleg
- Prosesau metamorffig rhanbarthol
- Stratigraffeg ac esblygiad gwedd
- Tacsonomeg ffosiliau infertebratau
- Tirwedd peri-gondwanaidd: oed, tarddiad a thectoneg uwch grŴp môn, ynys môn
- Tirwedd peri-gondwanaidd: palaeoddaearyddiaeth a ffawna canolbarth asia a'r dwyrain canol
[delwedd: Ymchwil Bioamrywiaeth a Bywydeg Gyfundrefnol]
Mae'r mwyafswm o'r ymchwil sy'n cael ei gyflawni gan yr Adran Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol yn anelu tuag at arddangos a dehongli adeiladau hanesyddol sydd wedi eu symud, ac arddangosfeydd orielau. Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn sefydliad sy'n ceisio dod â hanes yn fyw, yn addysgu a herio ymwelwyr yn hytrach na chyflwyno ystrydebau adloniannol yn unig. Mae'r dull hwn yn gofyn am ymchwil parhaus ac ailgylchu dyfeisgar o wybodaeth a gasglwyd. Mae'n gofyn am ymgysylltiad uniongyrchol gydag unigolion a chymunedau, nid yn unig i sicrhau bod ein casgliadau yn adlewyrchu Cymru gyfoes, ond hefyd er mwyn i ni ddeall sut maent yn ymgysylltu gyda'n harddangosfeydd er mwyn uniaethu gyda Chymru'r gorffennol. Mae'n ymchwil am bobl a straeon dynol sydd tu hwnt i arteffactau materol.
[delwedd: Ymchwil Celf]
Mae gan yr Adran Gelf gasgliadau amrywiol, ac mae ei gweithgareddau yn canolbwyntio ar arddangos, cadwraeth, ac i raddau ar gaffaeliadau. Mae'r meysydd canlynol yn cael eu hwynebu ar hyn o bryd:
Conservation
Mae gwaith cadwriaethol mewn amgueddfeydd yn cynyddol ganolbwyntio ar fesurau ataliol yn hytrach na gwaith ymyrryd. Darpariaeth amgylchedd sy'n lleihau dirywiad sy'n rhoi'r siawns orau i gasgliadau mawr oroesi yn y tymor hir. Mae'r projectau canlynol yn ceisio asesu technoleg newydd a datblygol ar gyfer eu haddasrwydd ar gyfer defnydd ar raddfa fawr.