Treftadaeth Wyddonol Cymru: Y Ffordd Ymlaen
Oes angen Amgueddfa Wyddoniaeth Genedlaethol ar Gymru?
Mae nifer o wyddonwyr yn teimlo bod angen creu sefydliad arbennig i adrodd hanes gwyddoniaeth yng Nghymru.


Bydd Amgueddfa Cymru yn cychwyn y drafodaeth ynglŷn â'r angen am greu Amgueddfa Wyddoniaeth Genedlaethol yn Treftadaeth Wyddonol Cymru: Y Ffordd Ymlaen, sef cynhadledd undydd a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddydd Iau, 18 Mawrth 2010.

Drwy gyfres o sgyrsiau, trafodaethau a gweithdai bydd yrhai sy'n arwain y gynhadledd yn archwilio'r canlynol:
- datblygiad Hanes Gwyddoniaeth
- cyfraniad Cymru, ei phobl ac Amgueddfa Cymru at ddatblygiad gwyddoniaeth a thechnoleg
- sut mae Cymru'n cymharu â gwledydd eraill megis yr Alban
- damcaniaeth ac ymarfer casglu deunydd sy'n gysylltiedig â hanes gwyddoniaeth
- cyfathrebu gwyddoniaeth a'r her o wneud y pwnc yn hygyrch i bobl ifainc
- rôl bosibl technoleg y cyfryngau newydd wrth gadw a chynrychioli treftadaeth wyddonol

Gwyddoniaeth a Chymru
Yr Athro John V Tucker, Ysgol Gwyddorau
Ffisegol, Prifysgol Abertawe
[Saesneg yn unig]
Astudiaeth Gwyddoniaeth yn Amgueddfa Cymru
Dr Eurwyn Wiliam, Ceidwad Emeritws, Amgueddfa Cymru
[Saesneg yn unig]

Agweddau ar Hanes Gwyddoniaeth
Dr Jeff Hughes, Darlithydd Uwch yng Nghanolfan Gwyddoniaeth, Technoleg a Meddygaeth, Prifysgol Manceinion
[Saesneg yn unig]
Materion gwyddonol, deunyddiau gwyddonol:
golwg hanesyddol ar gasglu diwylliant materol y
gwyddorau
Dr Adam Mosley, Darlithydd Uwch: Adran
Hanes a Chlasuron, Prifysgol Abertawe
[Saesneg yn unig]

O'r Dadeni hyd y presennol: casglu ac arddangos
gwyddoniaeth yng nghymdeithas yr Alban yn
Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban
Dr Alison Morrison-Low, Prif Guradur
Gwyddoniaeth, Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban
[Saesneg yn unig]


