[delwedd: Amgueddfa Cymru — National Museum Wales Podcast]
[delwedd: podcast Sain Teilo]
Podcast #3: Taith o gwmpas eglwys Sant Teilo (Cymraeg)
Yr eglwys ganoloesol o Landeilo Tal-y-bont yw'r eglwys gyntaf o'i math i gael ei symud a'i hailgodi mewn amgueddfa awyr-agored Brydeinig. Mae'r murluniau a ddarganfuwyd o dan wyngalch ei waliau yn bwrw goleuni pellach ar arferion addoli a chredoau'r 15fed ganrif.
Yr eglwys ganoloesol o Landeilo Tal-y-bont yw'r eglwys gyntaf o'i math i gael ei symud a'i hailgodi mewn amgueddfa awyr-agored Brydeinig. Mae'r murluniau a ddarganfuwyd o dan wyngalch ei waliau yn bwrw goleuni pellach ar arferion addoli a chredoau dechrau'r 16fed ganrif.
Mae'r rhifyn hwn yn cynnwys darlith a roddwyd yn yr eglwys, sydd bellach ar agor i'r cyhoedd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, gan ddehonglydd yr eglwys, Sara Huws.
Mae'r eglwys ar agor 7 diwrnod yr wythnos yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Mae llyfr sy'n adrodd hanes adfer yr eglwys ar gael o siop lyfrau'r Amgueddfa.
Mae'r podcast hwn yn ffeil m4a sy'n cynnwys trac sain a delweddau. Argymhellir defnyddio Quicktime neu feddalwedd chwarae fideo tebyg i'w chwarae, ond ni ellir defnyddio Windows Media Player.
Ffrwd RSS | Tanysgrifio yn iTunes | Lawrlwytho Podcast #3: Taith o gwmpas eglwys Sant Teilo (Cymraeg)