Dylunio Meicrosgopig: casgliad Ernest Heath o Fforaminiffera
Fyddai gennych chi'r amynedd i greu patrymau pitw fel y rhain?
Dychmygwch mai'r flwyddyn yw 1900, does dim teledu na rhyngrwyd i'ch diddanu. Drwy lwc, mae meicrosgopau fforddiadwy ar gael ac rydych chi wedi dechrau casglu gwrthrychau gwych a gwirion i'w hastudio. Mae archwilio byd natur ar raddfa fach yn boblogaidd ac yn hwyl.
Fforaminiffera sydd ar y sleidiau meicrosgop hyn gan fwyaf, sef anifeiliaid pitw sy'n byw drwy arnofio ger arwyneb y môr neu ar wely'r môr.
Ernest Heath: Gwr a chanddo law gadarn
Cawsant eu creu gan Ernest Heath, fwy na thebyg gan ddefnyddio brwsh paent gwlyb i godi'r samplau o dywod a llaid. Dydyn ni ddim yn gwybod rhyw lawer am y dyn ond roedd yn gymrawd y Gymdeithas Feicrosgopaidd Frenhinol, cafodd afael ar laid o foroedd dyfnion o bedwar ban rywfodd neu'i gilydd ac mae'n rhaid bod ganddo lawer o amser sbâr! Cysylltwch â ni os ydych chi'n gwybod mwy amdano.
Yn ddiweddar, bu arbenigwyr Daeareg yr Amgueddfa wrthi'n glanhau ac yn adfer y casgliad unigryw a hardd hwn o sleidiau.
Ffosilau o ddyddiau cynnar math newydd o wyddoniaeth.
Cafodd rhai o'r fforaminiffera eu casglu drwy dreillio gan HMS Challenger ar ei alldaith ym 1872-1876. Dyma oedd un o'r alldeithiau ymchwil gwyddonol cyntaf ar y môr ac fe'i galwyd yn ddechreuad eigioneg, sef astudiaeth y cefnforoedd. Mewn gwirionedd, rydyn ni'n dal i wybod llai am wely'r môr nag y gwyddom am ochr dywyll y lleuad!
Cliciwch ar y crynoluniau isod i weld detholiad o ddelweddau o'r casgliad.


Related
Orielau: Gemau a chrisialau
23 Gorffenaf 2009
oriel o fwynau Cymru
Mwynhewch liwiau, ffurfiau a gloywedd anhygoel y sbesimenau godidog hyn o’r amgueddfa.Orielau: Agos at Natur
21 Awst 2007Oriel rhyfeddol o ddelweddau sydd wedi’u creu gan wyddonwyr Amgueddfa Cymru gan ddefnyddio ffotograffiaeth wedi’i chwyddo’n fawr. Datguddiwch fanylion sy'n llai na thonfedd golau ei hun...Orielau: Blaschka Glass models
15 Gorffenaf 2007Oriel o fodelau gwydr manwl hyfryd o greaduriaid hynod y môr o gasgliadau Amgueddfa Cymru.




Gadael sylw