Eich Hanes: delweddau ac atgofion am Gymru
Sefydlwyd Eich Hanes i gynnwys amrywiaeth o ddelweddau ac atgofion o Gymru gan bobl Cymru.
Caiff Eich Hanes ei seilio'n llwyr ar eich straeon a'ch delweddau chi.
I gychwyn, byddwn ni'n canolbwyntio ar ‘Gymru wrth ei Gwaith' – ac yn cyflwyno detholiad o ddelweddau ac atgofion am waith diwydiannol yn Abertawe a'r fro. Bydd Rhagor yn adeiladu ar hyn trwy ofyn i'r cyhoedd gyflwyno delweddau diwydiannol o weddill Cymru, ynghyd ag enwau ac atgofion sy'n gysylltiedig â'r delweddau hynny.
Yn y dyfodol, bydd Eich Hanes yn ehangu i gynnwys pob math o atgofion o bob rhan o Gymru.
Oriel Cymru wrth ei Gwaith
Isod, ceir detholiad o ddelweddau a gyflwynwyd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau fel rhan o'r Project Hel Atgofion yn 2006. Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o bobl o ardal Abertawe wrth eu gwaith, gan gynnwys glowyr, gweithwyr dur, gweithwyr ffatri, gweithwyr y dociau a phobl yn gweithio mewn diwydiannau cartref.
Cliciwch ar y delweddau isod i'w gweld.
Helpwch ni i greu cofnod ffotograffig o Gymru wrth ei Gwaith.
Anfonwch ffotograff digidol ohonoch chi neu aelod o'ch teulu yn y gwaith – 'slawer dydd neu heddiw. Cewch ddangos unrhyw fath o waith, mewn ffatri, siop, pwll glo, swyddfa neu ar long – ble bynnag yng Nghymru y mae pobl yn gweithio neu wedi gweithio.
Cofiwch enwi'r bobl yn y ffotograff os ydych chi'n eu hadnabod, a nodi beth yw neu beth oedd eu gwaith, ynghyd ag unrhyw atgofion eraill sydd gennych amdanynt. Os oes modd, byddai'n dda cael gwybod ble a phryd y tynnwyd y llun hefyd.
Anfonwch eich delweddau i eichhanes@amgueddfacymru.ac.uk
Byddwn ni'n diweddaru Cymru wrth ei Gwaith yn gyson i ychwanegu detholiad o'r delweddau sy'n dod i law.
Amodau a thelerau
Wrth gyflwyno delwedd, rydych chi'n cytuno i roi hawl heb freindal nad yw'n neilltuedig i ni gyhoeddi a defnyddio'r deunydd yn ôl ein dymuniad. Chi sy'n berchen ar hawlfraint popeth rydych chi'n ei gyfrannu at Amgueddfa Cymru, ac os byddwn ni'n derbyn eich delwedd, fe wnawn ni bob ymdrech i gyhoeddi eich enw wrth ymyl y ddelwedd. Ni all Amgueddfa Cymru warantu y caiff eich lluniau eu defnyddio, ac rydyn ni'n cadw'r hawl i olygu eich sylwadau.
Mae Polisi Gwarchod Data Amgueddfa Cymru'n berthnasol i'r holl gynnwys a gyflwynir.


New
Erthyglau: Gweithwyr estron ym meysydd glo Cymru
6 Mawrth 2008Erthyglau: GLO - hanes pobl ar-lein
6 Mawrth 2008Erthyglau: Cofio'r Bois Bevin yn yr Ail Rhyfel y Byd
3 Ionawr 2008


