Tonyrefail Community Dresser 2010/2011
Rydym ni am greu dresel gyfoes, un fydd yn adlewyrchu beth sy'n bwysig i bobl heddiw.
Bydd gwrthrychau a gasglwyd gan gymunedau o wahanol rannau o Gymru yn cael eu harddangos yn Oriel 1, Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, am 6 mis ar y tro, cyn cael eu dychwelyd at eu perchnogion.
Byddant yn adlewyrchu bywyd Cymru heddiw, fel yr adlewyrchodd y Ddresel Gymreig draddodiadol fywyd y teulu dros y canrifoedd.
Os hoffech wybod mwy neu gymryd rhan, cysylltwch ag Owain Rhys, Curadur Bywyd Cyfoes ar 029 2057 3428 neu ar owain.rhys@amgueddfacymru.ac.uk
Plentyndod yng Nghymru
Yn anochel, daw plentyndod i ben, fel arfer drwy'r broses o dderbyn cyfrifoldebau, gorfod dod o hyd i waith, ac aeddfedrwydd cyfeillgarwch hirdymor.
Yma, mae grŵp o ffrindiau o Donyrefail yn arddangos gwrthrychau sy'n bwysig iddyn nhw, nawr eu bod yn dod i arfer gyda threfn, a phleserau, bywyd oedolyn.
Cliciwch ar y delweddau isod i'w gweld yn fwy manwl
Y Ddresel Gymunedol 5


Cysylltiedig
Orielau: Y Ddresel Gymunedol
4 Hydref 2007


