Creaduriaid y Dyfnfor - Modelau Gwydr Blaschka
Tua diwedd y 19eg ganrif, bu Leopola Blaschka (1822-1895) a'i fab Rudolf (1857-1929) yn gwneud modelau gwydr cywrain o greaduriaid hynod y môr ar gyfer amgueddfeydd byd natur ac acwaria ym mhedwar ban byd.
Galwyd eu gwaith yn: "rhyfeddod celfyddydol ym maes gwyddoniaeth a rhyfeddod gwyddonol ym maes celfydyd."
Hyd yn oed heddiw, mae gwaith y Blaschkas yn ymddangos yn eithriadol o gyfoes a hwythau'n croesi'r ffiniau rhwng dylunio, crefft, celfyddyd a diwydiant.
Cliciwch ar y mân-luniau isod i weld lluniau mwy o rai o'r modelau gwydr nodedig hyn a gedwir yn y Amgueddfa Cymru.
Blaschka


Cysylltiedig
Erthyglau: Trwsio'r gwaith trwsio - Gofalu am fodelau gwydr unigryw Blaschka
16 Mai 2007Mae gan Amgueddfa Cymru tua 200 o fodelau gwydr manwl hyfryd o greaduriaid môr o waith Leopold a Rudolf Blaschka. Gwnaed yr eitemau manwl a bregus hyn yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac maent wedi cael eu harddangos yn agored am flynyddoedd a'u storio dan amodau gwael, gan achosi difrod iddynt a'u gadael yn frwnt.
Erthyglau: Creaduriaid hud y dyfnderoedd mewn gwydr
16 Mai 2007Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad hynod o fodelau gwydr manwl prydferth o greaduriaid a wnaed ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan y crefftwr gwydr a'r naturiaethwr dawnus Leopold Blaschka.