Bathodynnau Glowyr
Mae bathodynnau yn ffordd bwysig o ddangos bod rhywun yn cefnogi achos neu'n ymddiddori mewn rhywbeth arbennig. Gallan nhw hefyd goffau digwyddiad penodol.
Mae sawl esiampl o fathodynnau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant glo, bathodynnau fyddai'n cael eu cynhyrchu yn ystod anghydfod diwydiannol neu eu gwerthu i godi arian wedi trychineb lofaol.
Yn ystod, ac ar ôl streic y glowyr ym 1984-85 y cynhyrchwyd y nifer fwyaf o fathodynnau. Cynhyrchwyd bathodynnau o bob lliw a llun ond byddent fel arfer yn cario enw Mudiad Cenedlaethol y Glowyr (N.U.M.), Cynghordy neu ardal. Byddent hefyd yn cario symbol arbennig — gallai fod yn eicon glofaol fel lamp, offer weindio neu gaib a rhaw wedi croesi; neu yn symbol a gynrychiolai'r dosbarth gweithiol fel dwylo'n ysgwyd, cadwyni wedi torri neu glorian cyfiawnder. Gwelid draig goch neu genhinen ar nifer o'r bathodynnau a gynhyrchwyd yng Nghymru hefyd.
Mae Adran Diwydiant Amgueddfa Cymru wedi casglu cannoedd o'r bathodynnau yma. Mae rhai yn cael eu harddangos yn Big Pit: Amgueddfa Wlân Cymru a gellir gweld esiamplau ar fas data casgliadau Delweddau Diwydiant.
Am ragor o wybodaeth efallai y bydd y llyfr 'Enamel Badges of the National Union of Mineworkers' (2008) gan Brian Witts o ddidordeb.
Cliciwch ar y delweddau isod i'w gweld yn fwy manwl.
Coal Miners' Badges


Related
Erthyglau: Streic!
12 Mawrth 2009Ar 1 Mawrth 1984 cyhoeddodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol ei fod yn bwriadu cau 20 o byllau glo a cholli 20,000 o swyddi. Bu'r streic 12 mis a ddaeth yn ei sgil yn gyfrwng i newid hanes gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol Cymru am byth.


