Gemau a Chrisialau o Gymru
[delwedd: Mwynau Cymru]
Mae mwynau wedi chwarae rhan bwysig iawn yn natblygiad economaidd a chymdeithasol Cymru ers yr Oes Efydd. Byth oddi ar y cyfnod hynafol hwnnw, mae brigiadau mwynol a mwyngloddiau wedi cael eu gweithio ledled Cymru, gan y Rhufeiniaid, mynachod Sistersaidd, cymeriadau enwog byd mwyngloddio'r ail ganrif ar bymtheg megis Thomas Bushell, ac yna ymlaen hyd oes aur y diwydiant mwyngloddio metelau yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan aed ati i agor siafftiau neu fwyngloddiau ar frigiad bron pob gwythïen a ffawt y wlad.
Ar hyn o bryd mae oddeutu 4,000 o wahanol fathau o fwynau yn cael eu cydnabod yn fyd-eang, ac mae presenoldeb 365 ohonynt wedi'i gadarnhau yng Nghymru.
Yma, cyflwynir detholiad o ddelweddau o fwynau a gedwir yn storfeydd Amgueddfa Cymru, gan ganolbwyntio ar rai o'r enghreifftiau mwyaf lliwgar yn y casgliadau.
Cliciwch ar y delweddau isod er mwyn cael gwybodaeth ychwanegol.
Gemau a Chrisialau


Cysylltiedig
Erthyglau: Mwynau a ddarganfuwyd gyntaf yng Nghymru
1 Gorffenaf 2009Mae dros 400 math gwahanol ar fwynau'n digwydd yng Nghymru sef tua deg y cant o'r rhai hysbys. Cafodd deg mwyn eu darganfod gyntaf yng Nghymru a'u henwi ar ôl daearegwyr, mwynolegwyr a llefydd yma a hyd yn oed ar ôl yr Amgueddfa ei hun.
Orielau: Orial Gwibfeini
25 Hydref 2008Orielau: Agos at Natur
21 Awst 2007