[delwedd: Peintiad tempera ar banel pren o’r unfed ganrif ar bymtheg]
Peintiad tempera ar banel pren o’r unfed ganrif ar bymtheg
O dan yr haenau o baent: yr unfed ganrif
Mae'r panel hwn yn dangos y deunyddiau a'r technegau cyffredin a ddatblygodd artistiaid yn yr Eidal yn ystod Y Dadeni. Mae rhai ohonynt yn dal i gael eu defnyddio heddiw.
Defnyddiwch y cysylltiadau isod i ddod i wybod mwy
1. Panel pren
Gwnaed y panel hwn o bren caled a elwir yn bren poplys. Byddai arlunwyr yr Eidal yn defnyddio’r math hwn o bren yn aml. Caiff y pren ei blaenio a'i sgwrio â phapur tywod i’w wneud yn wastad.
2. Seis glud a chynfas wedi'i baratoi
Gwneir seis glud o groen anifeiliaid a d?r. Caiff ei beintio ar y panel a glynu haenen denau o gynfas ar ei ben. Mae hyn yn creu arwynebedd gwell i'w breimio. Mae'r seis glud yn atal y panel rhag amsugno gormod o'r paent.
3. Preimio geso a thanlunio
Mae geso gwyn, a wneir o gypswm a seis glud, yn cael ei beintio mewn haenau. Ar ôl sandio, mae'r arwynebedd yn llyfn ac yn feddal ac yn barod i beintio arno. Ar ben hynny, bydd yr arlunydd yn creu dyluniad manwl neu'n tanlunio.
4: Haenau o dempera wy a phaent olew
Gwnaed yr haenau o baent a ddefnyddiwyd o dempera wy. Defnyddir rhywfaint o baent olew hefyd. Strociau brwsh bychain a haenau tenau tryloyw sy'n creu'r darlun. Mae'r paent yn llyfn iawn. Allwch chi weld sut mae'r paent preimio gwyn yn gwneud i'r haenau o baent edrych yn fwy llachar?
5: Peintio gyda farnais
Rhaid gadael i'r paent sychu am o leiaf blwyddyn cyn ychwanegu côt o farnais clir. Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, câi'r farnais ei wneud trwy doddi resin o goeden mewn olew had llin a'i daenu tra'r oedd yn boeth. Mae'n amddiffyn y paent ac yn cadw'r lliwiau'n fwy llachar.
Nesaf, edrych am cynfas o'r ail ganrif ar pumtheg
New
Erthyglau: Dod yn artist yn y ddeunawfed ganrif
8 Hydref 2010Erthyglau: Celf yn yr Eidal 1500-1700: Y Dadeni
28 Medi 2010