Pum Cerddor
Mae'r darn hwn yn dangos pum cerddor ar falconi yn chwarae (o'r chwith i'r dde) yaogu (drwm am y canol), xiao (ffliwt a chwaraeir o'i ben), di (ffliwt a chwaraeir o'i ochr), zhuban (clapiwr bambŵ) a changgu (drwm hir siâp awrwydr).
Cafodd y grŵp yma o gerddorion yn chwarae ar falconi ei ddatgloddio mewn bedd yn Moerpo yn sir Dazu. Roedd i fod i ddiddanu perchennog cyfoethog y feddrod yn y bywyd nesaf. Llinach y Song [OC960-1279]
Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu mwy am offerynnau'r cerddorion
Drwm am y canol
Yaogu yw hwn, sef drwm a glymir am ganol y cerddor ac sy'n cael ei chwarae gan ddawnswyr yn aml iawn.
Ffliwt a chwythir o'i ben
Xiao yw hwn, sef ffliwt a chwythir o'i ben ac sy'n cael ei wneud o famb? yn draddodiadol.
Ffliwt a chwythir o'i ochr
Di yw hwn, sef ffliwt a chwythir o'i ochr sy'n cael ei wneud o famb? fel arfer gyda brwynen y tu mewn sy'n rhoi sain unigryw iddo.
Clapiwr bambŵ
Zhuban yw hwn, sef offeryn taro sy'n cael ei chware drwy glapio sawl darn o famb? at eu gilydd.
Drwm hir siâp awrwydr
Changgu yw hwn, sef drwm siâp awrwydr gyda dau ben sy'n cynhyrchu seiniau o draw gwahanol.
Dazu mewn Manylder:
- Pum Cerddor
- Sakyamuni Buddha


