GLO - hanes pobl ar-lein
Mae'r cylchgrawn GLO ar gael ar Rhagor.
Seiliwyd arddull GLO ar y cylchgrawn ffotonewyddiaduraeth Picture Post, ac mae hefyd yn cydweddu â Ffrynt Cartref, cylchgrawn gwych Sain Ffagan oedd yn cofio bywyd Cymreig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae GLO hefyd yn debyg i COAL, cylchgrawn y Bwrdd Glo Cenedlaethol, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1947.
Gellid disgrifio cylchgrawn Big Pit orau fel cylchgrawn 'hanes pobl'; gwahoddir pobl i gyfrannu eu barn, delweddau a phrofiadau ar pwnc arbennig.
Mae detholiad o straeon a delweddau o'r cylchgrawn ar gael ar Rhagor fel erthyglau unigol; mae pob un ohonynt yn cysylltu'n ôl i'r cyhoeddiad perthnasol.
Y rhifynnau a gyhoeddwyd eisoes yw:
- 'Bois Bevan' - consgripsiwn i'r pyllau glo yn ystod yr Ail Ryfel Byd
- 'NC-Bloody-B' - gwladoli'r diwydiant glo
- 'Pwyliaid Pob Un?' - gweithwyr estron ym meysydd glo Cymru
- 'Streic!' - Streic y Glowyr 1984/5
- Gweithwyr Glo
- Y Gogledd-ddwyrain: Maes glo angof?
- Cadw'r Olwyn i Droi
- Pwll Mawr
Mae'r cylchgronnau ar gael i'w lawrlwytho isod.
Dyddiad yr erthygl: 6 Awst 2010







![Gweithwyr Glo [4.8 MB]](/media/12147/front_page.jpg)


![Pwll Mawr [PDF 5.4MB]](/media/27616/Glo_8_Page_01.jpg)
Dangos sylwadau

