Pengwiniaid yr Antarctig

Mae'r pengwin yn anifail sy'n archdeip o'r Antarctig ond dim ond dwy rywogaeth, y Pengwin Ymerodrol a'r Adélie sydd i'w canfod yn yr Antarctig yn unig. Mae'r pengwiniaid Antarctig eraill, fel y Chinstrap a'r Gentoo, hefyd i'w gweld ar yr ynysoedd is-Antarctig. Mae rhywogaethau eraill hefyd sy'n byw mewn hinsoddau cynhesach — yn wir mae Pengwin y Galapagos yn byw ar y cyhydedd bron. Fodd bynnag, maen nhw wastad yn byw lle mae dŵr oer iawn yn llifo o'r de. Adar diasgell ydyn nhw sydd wedi esblygu i fyw yn y môr, lle byddan nhw'n treulio'r rhan fwyaf o'u hamser.
Y Pengwin Ymerodrol yw'r mwyaf gan gyrraedd taldra o dros fetr a phwysau o 22-45 kg. Capten Scott oedd y cyntaf i gofnodi arferion mudo'r Pengwin Ymerodrol, ar Alldaith Discovery 1901-04. Maent yn dod i'r lan ym mis Ebrill ac yn cerdded cymaint â 100-160 km i'r meysydd bridio. Wedi dodwy un ŵy, bydd y benyw yn dychwelyd i'r môr i fwydo, gan adael y gwryw i ori drwy aeaf garw'r Antarctig. Bydd yn dioddef naw wythnos o dymereddau yn agos i -50°C a gwyntoedd o hyd at 200 kya. All y gwryw ddim bwydo drwy gydol y cyfnod ac erbyn i'r benyw ddychwelyd yn gwanwyn bydd wedi colli 45% o'i holl bwysau!
Casglai'r fforwyr cynnar i'r Antarctig bengwiniaid er mwyn eu bwyta, ond byddai rhai yn cael eu casglu fel arbrofion gwyddonol. Mae nifer yn y casgliadau yma yn Amgueddfa Cymru.


Peter Howlett, Adran Bioamrywiaeth a Bywydeg Systematig a Tom Sharpe, Adran Ddaeareg.
Related
Erthyglau: Baner Gymreig Capten Scott
1 Mawrth 2012Mae nifer o faneri Draig Goch yng nghasgliad tecstilau Amgueddfa Cymru. Roedd y mwyafrif yn cyhwfan yn wreiddiol uwchlaw adeiladau dinesig ac mae un wedi cael ei hedfan yn y gofod hyd yn oed! Mae cysylltiad rhwng yr esiampl fwyaf a hynaf yn y casgliad â thaith feiddgar arall — Alldaith Antarctig Brydeinig Capten Robert Falcon Scott 1910-13.
Erthyglau: Llofnodion o Alldaith Capten Scott i'r Antarctig ym 1910.
12 Tachwedd 2010Roedd Alldaith Antarctig Brydeinig Scott ym 1910-13 wedi dal dychymyg y cyhoedd ym Mhrydain, yn enwedig wedi i long Scott, y Terra Nova, ddychwelyd i Gaerdydd o'r Pegwn heb Scott a phedwar o'i gymdeithion. Roedd galw mawr am lofnodion aelodau'r alldaith.Erthyglau: Cymry'r Antarctig
29 Hydref 2010Erthyglau: Capten Scott yn hwylio o Gaerdydd
9 Mehefin 2010


