Triongl
I gydfynd gyda'r arddangosfa urdd.org yn Oriel 1, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, rhwng Mawrth a Gorffennaf 2009, bu'r Amguedddfa a'r Urdd yn cydweithio ar gynllun Triongl, sef cadwyn o weithgareddau celfyddydol dros Gymru.
I ddechrau'r gadwyn, bu criw o feirdd ifanc o Feirionydd yn llunio cerdd ar y thema 'Triongl' gyda Bardd Plant Cymru, Ifor ap Glyn yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn.
Y ddolen nesaf yn y gadwyn oedd creu darn o gelf yn seiliedig ar y gerdd gyda chriw o ddisgyblion Lefel A Ysgolion Penweddig a Dyffryn Teifi, Ceredigion, dan arweiniad yr arlunydd Mary Lloyd Jones.
Ac i gloi'r gadwyn, ysbrydolwyd disgyblion Ysgolion Plasmawr a Fitzalan yng Nghaerdydd, dan arweiniad Cerdd Gymunedol Cymru, i recordio gwahanol synau o amgylch safle Amgueddfa Werin Cymru: Sain Ffagan — synau adar yn canu, coed yn llosgi, a'r gof yn gweithio — â'u plethu i greu cyfansoddiad cerddorol unigryw wedi'i ysbrydoli gan y gerdd a'r gwaith celf.
Triongl
Mae'r seren ar ei hanner
A'i sŵn sydd ynom ni
Y brefu o'r cae dan tŷ
A Morys y gwynt drwy'r coed
Neu gyrn y ceir ar strydoedd y Bae
A dwndwr draen yn byrlymu i'r môr
Cariwn y cyfan mewn potel â ni
I'n cynnal wrth gamu yn betrus i'r maes
Ac wrth droedio llwyfan y cyd-ddyheu
Cyd-symudwn yn osgeiddig
Cyd-gordiwn yn ddeheuig
Nes fod efydd ein hymdrech
Ac arian ein dawn
Yn creu awyrgylch newydd aur
Ac yna'r ymlacio, rhoi'r baich heibio
Rhannu profiad, rhannu gair
Rhannwn ffaith, a barn a chlecs,
Yn dorf neu'n griw neu'n bâr
Ac wrth anelu am adre'n falch
A phawb wedi gwneud eu rhan
Mae'r seren yn gyflawn
A'i golau'n disgleirio
A'i sŵn yn atseinio ymhob man
Beirdd ifanc Meirionydd
gydag Ifor ap Glyn
Cerddorion ifanc Ysgolion Plasmawr a Fitzalan, gyda Cerdd Gymunedol Cymru
Dyddiad yr erthygl: 28 Medi 2009





Gadael sylw