Atgynhyrchu Pennau Saethau Rhufeinig
[delwedd: Pen saeth Rhufeinig â thair asgell o Dinorben, gogledd Cymru ]
Pen saeth Rhufeinig â thair asgell o Dinorben, gogledd Cymru
[delwedd: Pen saeth Rhufeinig â phedai asgell o Gaerllion, de Cymru]
Pen saeth Rhufeinig â phedai asgell o Gaerllion, de Cymru
[delwedd: Copïau o bennau saethau]
Copïau o bennau saethau
[delwedd: Jig a ddefnyddiwyd i ffurfio pen saeth â phedair asgell.]
Jig a ddefnyddiwyd i ffurfio pen saeth â phedair asgell.
[delwedd: Andrew Murphy yn defnyddio'r jig i greu pennau saethau Rhufeinig yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru]
Andrew Murphy, gof Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn defnyddio'r jig i greu pennau saethau Rhufeinig
Defnyddiai'r Rhufeiniaid sawl math gwahanol o bennau saethau. Roedd gan y rhai mwyaf nodweddiadol gyfres o esgyll: tair asgell oedd gan rai cynnar, ond mae enghreifftiau o rai â phedair asgell wedi'u canfod sy'n perthyn i'r drydedd ganrif OC. Un rheswm posibl am y newid hyn yw ei bod hi'n haws cynhyrchu'r fersiwn â phedair asgell.
Yn 2008 cynhaliwyd Pencampwriaeth Saethyddiaeth Maes y Byd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, a cynhaliodd yr Amgueddfa sawl arddangosfa fach ar saethyddiaeth. Cynhyrchwyd nifer o bennau saethau Rhufeinig yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa saethyddiaeth Rufeinig i ddangos sut fyddai pennau saethau Rhufeinig newydd sbon yn edrych.
Yn sgil gwaith cadwraeth gofalus ar rai o bennau saethau Rhufeinig yr Amgueddfa, gwelwyd digon o fanylion gwreiddiol i ddatgelu'r broses gynhyrchu a ddefnyddiodd y Rhufeiniaid. Roedd gof Amgueddfa Sain Ffagan am greu copïau yn yr un modd a bu'n arbrofi nes ei fod yn medru creu copïau oedd yn debyg iawn i'r gwreiddiol.
Dangosodd y gwaith arbrofol hyn ei bod yn haws ac yn gynt cynhyrchu'r math â phedair asgell oherwydd bod modd creu'r esgyll mewn jig. Gan fod mwy o ofod rhwng yr esgyll ar y fersiwn tair asgell roedd yn rhaid taro'r esgyll i siâp yn unigol, ac roedd un asgell yn y ffordd wrth geisio gweithio ar un arall. Ai dyma pam y dechreuwyd cynhyrchu fersiynau pedair asgell?
Os yw hyn yn wir, pam oedd y Rhufeiniaid yn cynhyrchu pennau saethau â thair asgell yn y lle cyntaf? Seiliwyd offer saethyddiaeth Rhufeinig ar dechnoleg y Dwyrain Agos. Yno, cai'r pennau saethau metel gwreiddiol eu castio mewn efydd. Copïo ffurf tair asgell y pennau saethau efydd yma wnaeth y Rhufeiniaid yn syml iawn.
Darllen Pellach
Bishop, M.C.&Coulston, J.C.N. 2006 Roman Military Equipment, from the Punic Wars to the Fall of Rome (Rhydychen: Oxbow Books)
Chapman, E.M. 2005 A Catalogue of Roman Military Equipment in the National Museum of Wales, BAR British Series 388 (Rhydychen)
Erthygl gan:Evan Chapman, Swyddog Curadurol, Archaeoleg a Niwmismateg
Dyddiad yr erthygl: 14 Medi 2010
0 sylw
Gadael sylw