Casgliad ffotograffau ddiwydiannol Hansen
Un o drysorau mwyaf archif ffotograffau ddiwydiannol gyfoethog Amgueddfa Cymru yw Casgliad Hansen. Mae yn y casgliad 4,569 negatif o longau yng Nghaerdydd (gyda dwy ran o dair ohonynt yn negatifau gwydr). Fe'i tynnwyd gan aelodau o deulu Hansen rhwng 1920 a 1975 ac maent yn gofnod ffotograffig arbennig o fynd a dod llongau yn y porthladd yn ystod y cyfnod hwnnw.
Prynwyd y casgliad ym 1979 ac ers hynny, mae print o sawl un o negatifau'r casgliad wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau gan Amgueddfa Cymru a Chymdeithas Llongau'r Byd. Ym 1993 cyhoeddwyd detholiad o ffotograffau o'r casgliad ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru a Gwasg Prifysgol Cymru, gyda chefnogaeth ariannol gan y Gyfnewidfa Faltig. Bu Shipping at Cardiff: Photographs from the Hansen Collection, 1920-75 (ISBN 0-7083-1231-4) yn gyhoeddiad poblogaidd gan aildanio diddordeb yn y casgliad cyfan ac arwain at sawl ymholiad am ei gwmpas a'i gynnwys.
Morwr o Ddenmarc â diddordeb mewn ffotograffiaeth oedd Lars Peter Hansen. Ymsefydlodd yng Nghaerdydd ym 1891 gan sefydlu busnes ffotograffiaeth oedd yn canolbwyntio ar gofnodi llongau ym mwrlwm y dociau. Ym 1936, etifeddodd ei drydydd mab Leslie y busnes, a parhaodd ef i dynnu ffotograffau o longau tan ei ymddeoliad ym 1975. Yn anffodus, ymddengys nad oes unrhyw negatifau wedi goroesi o'r cyfnod cyn 1920, er bod rhai printiau o longau a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf â nod Hansen arnynt yng Nghasgliad yr Amgueddfa.
Ym 1979, penderfynodd mab Leslie Hansen, Leslie oedd ei enw yntau hefyd, werthu'r negatifau oedd yn weddill a phrynwyd y casgliad cyfan gan Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru. Swyddog Cadwraeth yr Amgueddfa ar y pryd oedd Mr Don Taylor. Aeth ati i gwblhau'r dasg anferth o ail-rifo pob negatif, eu gosod mewn bagiau negatif newydd a chasglu catalog o'r deunydd. Diolch i wybodaeth helaeth Mr Taylor o longau a'i natur drylwyr, cynhyrchwyd catalog manwl a chynhwysfawr a arweiniodd at gyhoeddi The Hansen Shipping Photographic Collection (ISBN 0-7200-0437-3) ym 1996.
Dylai darllenwyr sydd am archebu printiau o'r casgliad hwn gysylltu â:
Swyddog Trwyddedu Delweddau,
Mentrau AOCC Cyfyngedig,
Parc Cathays,
Caerdydd
CF10 3NP
Ffôn: (029) 2057 3280 neu ebostio kay.kays@amgueddfacymru.ac.uk
Nodwch enw'r llong a rhif catalog. Gellir gweld prisiau gwahanol fathau o atgynhyrchiadau ffotograffig wrth wneud cais i'r cyfeiriad uchod.
Dyddiad yr erthygl: 15 Mawrth 2011



Dangos sylwadau
