Glowyr o Gymru'n cloddio dros Brydain ar y Ffrynt y Gorllewin
Ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf
[delwedd: Medelau Captain Arthur Edwards]
Medelau Captain Arthur Edwards
Y Capten Arthur Edwards o Flaenafon oruchwyliodd tanio ffrwydryn cyntaf Prydain ar Ffrynt y Gorllewin ym Mawrth 1915.
Mae'r Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18) yn enwog am y brwydro ffyrnig yn ffosydd Ffrynt y Gorllewin yn Ffrainc a Fflandrys. Wynebai byddinoedd anferth ei gilydd mewn amgylchiadau erchyll, wrth baratoi am y frwydr fawr nesaf i ennill tir.
Roedd cloddio twneli a gosod ffrwydron tanddaearol yn rhan bwysig o frwydro yn y ffosydd, wrth i'r ddwy ochr geisio ennill mantais. Cloddiwyd twneli o dan yr ardaloedd "tir neb" a ffosydd y gelyn. Yna fe'u llenwyd a ffrwydron cyn eu tanio.
Roedd calch sych y Somme yn arbennig o addas ar gyfer ffrwydron tanddaearol, ond roedd modd gosod ffrwydron yng nghlai gwlyb Fflandrys hefyd. Chwaraeodd profiad a medrau glowyr Cymru ran allweddol yn y gwaith o gynhyrchu'r ffrwydron hyn.
Ymladd y rhyfel o dan y ddaear
[delwedd: ]
Y Capten Arthur Edwards, peiriannydd glofaol a wasanaethodd yn ail Fataliwn Catrawd Sir Fynwy, gychwynnodd y cyfan. Yn Rhagfyr 1914 ffurfiwyd y 4th Divisional Mining Party, dan reolaeth Edwards.
Ym Mawrth 1915, wedi deufis o gloddio twneli o dan linellau'r gelyn, gwagiwyd y twneli ac fe'u llenwyd â ffrwydron cyn eu tanio. Dinistriodd y ffrwydrad adeiladau ar wyneb y tir - oherwydd cloddiwyd y twneli o dan adeiladau a ddefnyddid gan saethwyr y gelyn.
Ar achlysur arall, wrth i dîm gosod ffrwydron tanddaearol yr Almaenwyr gloddio mewn un cyfeiriad, daethant ar draws twneli'r lluoedd cynghreiriol a oedd yn cloddio i'r cyfeiriad arall, gan arwain at frwydro ffyrnig wyneb yn wyneb o dan y ddaear.
Bathodyn Anrhydedd
[delwedd: ]
Ym Mehefin 1915 enillodd y Capten Arthur Edwards y Groes Filwrol, gwobr newydd ar gyfer capteiniaid ac is-swyddogion. Cafodd hefyd ei grybwyll mewn gohebiaeth am wasanaeth dewr a neilltuol. Gwasanaethodd gydol y rhyfel, yn cynnwys diwrnod cyntaf brwydr y Somme (1 Mehefin 1916) cyn cael ei anafu'n ddifrifol gan siel nwy ym Mehefin 1918.
Cyflwynwyd ei fedalau i Amgueddfa Cymru ym 2006. Maent yn rhan o'r arddangosiad "Bathodynnau Anrhydedd: medalau o'r ddau ryfel byd" yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Erthygl gan: Edward Besly, Niwmismatydd, Archeoleg a Niwmismateg. Amgueddfa Cymru
Dyddiad yr erthygl: 1 Hydref 2009
2 sylw
Amgueddfa Cymru ar 10 Rhagfyr 2009, 10:51 (Staff Amgueddfa Cymru)
Dear Paul, I understand from our Numismatist that you have arranged to meet him to discuss this. Many thanks, and I hope you enjoy your visit to the Museum.
PAUL MARTIN ar 9 Rhagfyr 2009, 16:43
I understand that a photograph of my grandfather and his medal "legion d'honneur" is on display. I am visiting Cardiff this weekend and I intend to visit the museum. I was instrumental in obtaining his medal from the French government and I have a number of photographs and documents which feature him from World War 1 which I am willing to share with you. Will somebody be available to to discuss this on saturday.
Many thanks
Gadael sylw