Bwyd Nadolig
Yr Ŵydd
Bu'r ŵydd yn ganolog i'r wledd Nadolig yng Nghymru tan yn ddiweddar iawn. Ers yr Oesoedd Canol 'roedd gan y ffermwyr mawr ŵydd ar y bwrdd i Ginio Nadolig. 'Roedd gwyddau yn hawdd i'w magu a chawsent bori a lloffa ar y caeau ŷd ar ôl y cynhaeaf. Bu'n arfer gan y ffermwyr i roi gŵydd yn rhodd i'w tenantiaid a'u gweithwyr adeg Gŵyl Mihangel, ond gofalent am gadw nifer dda i'w tewhau ar gyfer y farchnad Nadolig. Yn gyffredinol, ni welwyd y twrci ar fwrdd Nadolig y Cymro tan ail hanner yr ugeinfed ganrif.
Cacen waed gwyddau
Yng nghanolbarth Cymru, roedd hi'n arfer i wneud cacen waed gwyddau pan fyddai'r ffermwyr yn lladd nifer fawr o wyddau ar gyfer Nadolig. Mae cof am ei gwneud yn ardal Trefeglwys a'r cylch, ac yn ardaloedd Staylittle, Llanbryn-Mair a Llangurig. Fe'i cyfrifid yn foethyn a gysylltid â'r Nadolig yn unig. Byddent yn tywallt gwaed tua tair o wyddau mewn basin pridd, a'i roi mewn sosbennaid o ddŵr a'i ferwi. Yna byddent yn gadael i'r gwaed oeri a chaledu cyn ei falu'n fân â llaw. Yna byddent yn rhoi'r 'gwaed' mewn dysgl bridd ac yn ei gymysgu â chyrens, blawd gwyn, siwet mâl, halen, sbeis a thriogl melyn. Cymysgu'r cyfan yn dda â llwy bren. Byddai'r cymysgedd yn cael ei grasu rhwng dwy haen o grwst brau ar blât yn y popty. Cyfuniad rhyfedd, meddech chi, ond cofiwch fod y mincemeat a geir mewn mins peis yn cynnwys cig yn wreiddiol!
Pwdin Berwi
Y mae'r pwdin berwi, yn llawn ffrwythau a sbeis, wedi ei gysylltu â'r Nadolig ers y ddeunawfed ganrif. Yr hen drefn oedd berwi'r cymysgedd yn un lwmp mawr mewn cŵd lliain - yr arfer a roddodd iddo'r enwau pwdin lwmp, pwdin clwt neu pwdin cŵd. Byddid yn rhwymo gwddf y cŵd a llinyn a'i grogi wrth ddarn o bren a roid ar draws y crochan fel bod y pwdin yn hongian i mewn yn y dŵr berw. Ar ddydd Nadolig byddid yn gwneud 'menyn melys' i dywallt drosto.
Byddai pob aelod o'r teulu yn cymryd ei dro i droi a chymysgu'r pwdin ac yn gwneud dymuniad 'cudd' ar yr un pryd. Yr oedd hi'n arfer i guddio darnau bach o arian yn y pwdin - yr hen ddarnau tair ceiniog neu chwe-cheiniog - a mawr oedd y chwilio amdanynt yn y dysglau pwdin ar ddydd Nadolig.
Noson gyflaith
Teisen dorth
Gwneid teisen dorth yn arbennig ar gyfer y Nadolig yng nghymoedd diwydiannol de Cymru ac yn yr ardaloedd cyfagos. Bryd hynny, byddai gwragedd y pentref yn gwneud dwy neu dair teisen ar y tro ac yn eu cario i'r bacws lleol i'w crasu.
'Roedd hi'n arfer i'r cymdogion 'brofi' teisennau ei gilydd yn ystod gwyliau'r Nadolig a cheir tystiolaeth (yn ardal Margam ger Port Talbot) am yr hen goel: os profai merch ifanc dair teisen ar ddeg o gwmpas un Nadolig y byddai'n siŵr o ennill gŵr cyn y Nadolig canlynol!
Dyddiad yr erthygl: 10 Mai 2010



Dangos sylwadau
