Blodau gwyllt anhymhorol yng Nghaerdydd: Gaeaf 2012
Ar Dydd Calan 2012 gwelwyd planhigion yn blodeuo yn anghyffredin ar draws dinas Caerdydd. Fyddwn ni'n gweld yr un peth ar Ddydd Calan 2013, neu a fydd rhew'r gaeaf yn atal ein blodau gwyllt rhag blodeuo allan o'u tymor?
Cafwyd gaeaf yn 2011-2012 gan gloi yr ail flwyddyn gynhesaf ers dechrau cofnodi ym 1910. Diolch i'r tywydd mwyn, dyma nifer o blanhigion yn parhau i dyfu drwy'r Gaeaf, pan fydden nhw fel arfer yn diflannu yn yr Hydref.
Ar Ddydd Calan 2012, arweiniodd Dr Tim Rich (Amgueddfa Cymru) a Dr Sarah Whild (Prifysgol Fetropolitan Manceinion) helfa blodau gwyllt a ddangosodd pa mor anarferol fu gaeaf 2011-2012: canfuwyd 63 o flodau gwyllt yn eu blodau wrth chwilio o amgylch Caerdydd. Doedd rhew'r hydref ddim wedi bod yn ddigon garw i wywo'r planhigion dros y gaeaf ac roedd y rhan fwyaf o'r blodau gwyllt wedi parhau i dyfu. Roedd tair rhywogaeth sy'n blodeuo yn y gwanwyn – collen, briallu a Llygad Ebrill – yn blodeuo'n gynnar iawn. Mae 63 o flodau gwyllt yn gyfanswm tipyn uwch na'r hyn a ddisgwylir fel arfer, sef tua 10-20 o rywogaethau.
Yn ogystal ag amrywiaeth y rhywogaethau yn blodeuo, roedd y patrwm ailadroddus o blanhigion unigol ym mhob rhywogaeth yn blodeuo, a hynny ar draws y ddinas, yn anarferol. Gwelwyd niferoedd da o Efwr, Y Bengaled, Meillion Coch a Blodau Menyn mewn lleoliadau gwahanol. Gwelwyd gwair troed y ceiliog â'r pennau'n blodeuo am tua 1.5km ar hyd llain ganol yr A470.
Roedd hi'n hynod ddiddorol gweld y gwair o gyffiniau Môr y Canoldir, Compact Brome yn llawn blodau. Planhigyn unflwydd gaeafol sy'n sensitif i oerfel yw Compact Brome, a dim ond yn ne-ddwyrain Prydain y mae'n goroesi. Bydd yn blodeuo rhwng Mai a Gorffennaf ym Mhrydain fel arfer, ond mae blodeuo yn y gaeaf yn nodweddiadol o'i ymddygiad yn ardal Môr y Canoldir lle mae'n rhaid iddo flodeuo'n gynnar er mwyn osgoi sychder yr haf.
2011 – 2012: Gaeafau gwahanol
Roedd gaeaf 2011-2012 yn cyferbynnu'n llwyr â gaeaf 2010-2011, pan brofwyd y Rhagfyr oeraf ers dechrau cofnodi. Grug oedd yr unig blanhigyn a welwyd yn blodeuo ar Ddydd Calan 2011 – os ydy 'wedi rhewi dan flanced eira' yn cyfri fel 'blodeuo'.
O ganlyniad i'r gaeaf mwyn gwelwyd hefyd nifer o flodau'r ardd yn blodeuo'n gynnar, gyda Camellia, Clychau Aur a Chorswigen y Gaeaf yn blodeuo ym mis Ionawr. Daeth canfyddiadau'r arolwg i glyw'r cyfryngau cenedlaethol, a daeth hi'n amlwg drwy hyn bod tystiolaeth debyg ym mhob cwr o Brydain.
Os taw cynhesu byd-eang sydd i gyfri am y patrymau blodeuo anarferol, efallai eu bod yn arwydd o'r hyn i'w ddisgwyl yn y dyfodol. Er bod y blodau gwyllt yn blodeuo, ni allent ledu hadau am nad oedd gwenyn na gwybed yn hedfan. Fel arfer, bydd oerfel gaeaf yn lladd plâu fel y pryfyn glas a'r pathogen, ond os byddan nhw'n goroesi mewn gaeafau mwyn gallent dyfu'n broblem fawr. Bydd planhigion Arctig-alpaidd yn pydru mewn gaeafau cynnes, gwlyb, felly gallai gael effaith anghymesur arnynt hefyd. Gallai rhywogaethau bythwyrdd sy'n hoff o wres ffynnu.
Fyddwch chi'n mwynhau'r awyr iach ar Ddydd Calan 2013?
Pa blanhigion blodeuog fydd i'w gweld ar Ddydd Calan 2013? Os gwelwch chi unrhyw flodau, anfonwch e-bost aton ni yn rhagor@amgueddfacymru.ac.uk yn nodi rhywogaeth a lleoliad y planhigyn, a llun ohono.
Wild-flowers-in-Cardiff-on-New-Years-Day-2012.pdf
Dyddiad yr erthygl: 20 Rhagfyr 2012





Gadael sylw