Helpwch ni i ddysgu mwy am ddirgelwch yr "Ysbrydwlithen" estron
[delwedd: Ysbrydwlithen aeddfed, tua 7cm o hyd.]
Ysbrydwlithen aeddfed, tua 7cm o hyd.
[delwedd: Dannedd llafnaidd yr Ysbrydwlithen]
Dannedd llafnaidd yr Ysbrydwlithen, pob un tua hanner milimedr o hyd. Mae'r rhain yn llawer hirach ac yn fwy miniog na dannedd rhywogaethau llysysol.
[delwedd: Llun agos o ben y wlithen.]
Llun agos o ben y wlithen. Byddai'r llygaid, petasent yn bresennol, wedi'u lleoli ar flaenau'r ddau dentacl uchaf (hiraf).
[delwedd: Ysbrydwlithen ifanc]
Ysbrydwlithen ifanc
Mae gwyddonwyr yn ceisio darganfod mwy — ac rydym angen eich help chi i ddarganfod pa mor gyffredin yw'r am y creadur hwn.
Mai 2009:Y Diweddaraf am Ysbrydwlithen, Gwanwyn 2010
Mae'r Ysbrydwlithen yn rhywogaeth estron, a gyflwynwyd i Brydain o amgylch gwreiddiau planhigion gardd. Mae ei pherthnasau agosaf yn byw ym mynyddoedd dwyrain Ewrop, Georgia a dwyrain Twrci.
Beth yw'r Ysbrydwlithen?
Yn wahanol i'r mwyafrif o wlithod, mae'r Ysbrydwlithen yn gigysol. Mae'n lladd mwydod yn y nos â'i dannedd llafnaidd pwerus, gan eu sugno i'w chorff fel sbageti. Mae'n anghyffredin hefyd gan nad oes ganddi lygaid (mae'n ddall mwy na thebyg) ac mae bron a bod yn hollol wyn.
Mae'n treulio'r mwyafrif o'i hamser o dan y ddaear, yn gwasgu ei chorff hyblyg i mewn i holltau neu dwneli i gyrraedd at fwydod, gan eu canfod trwy arogli neu flasu.
Pam ydym am glywed oddi wrth bobl sy'n ei gweld?
Ychydig iawn sy'n hysbys am y rhywogaeth hon. Gwyddom ei bod yn bwyta mwydod, a'i bod yn gallu byw a bridio mewn gerddi Prydeinig.
Ar y cyfan mae mwydod o fudd i arddwyr a byd amaeth, ac maent yn darparu bwyd ar gyfer llawer o'n bywyd gwyllt, felly mae'n bosib y gallai'r Ysbrydwlithen ddod i gael ei gweld fel pla.
I'n helpu i ddarganfod pa mor gyffredin yw'r Ysbrydwlithen, rydym yn awyddus iawn i glywed oddi wrth unrhyw un sy'n ei chanfod. Rydym wedi cynhyrchu llawlyfr i helpu pobl i ganfod ac adnabod y wlithen.
Lle i ganfod yr Ysbrydwlithen
Y ffordd orau i ganfod yr Ysbrydwlithen yw edrych o dan botiau planhigion, slabiau pafin neu gerrig ar bridd, neu wrth balu mewn gerddi, rhandiroedd neu tomenni compost. Efallai bod yn well ganddynt bridd rhydd, cyfoethog â digon o fwydod, ac mae'n debygol eu bod yn gallu cloddio'n eithaf dwfn.
Mae'r babanod, sydd ond ychydig filimedrau o hyd pan maent yn deor, ac yn eithaf tenau, yn amlwg iawn ar gefndir tywyll.
Mae'r llawlyfr adnabod hefyd yn cynnwys un o'r Gwlithod Cragennog (Testacella sp.) sydd hefyd, fel yr Ysbrydwlithen, yn ddirgelwch. Byddai gwybodaeth ynglŷn â'u gweld yn ein helpu i ddeall mwy am y wlithen hon hefyd.
Os welwch chi naill ai'r Ysbrydwlithen neu'r Wlithen Gragennog, hoffem glywed oddi wrthych. Cysylltwch â ni drwy'r cyfeiriad yn y llawlyfr adnabod.
[delwedd: Llawlyfr Adnabod yr Ysbrydwlithen. [PDF - 485 KB]]
Llawlyfr Adnabod yr Ysbrydwlithen. [PDF - 485 KB]
Canllawiau ar yr Ysbrydwlithen
Rydyn ni wedi cael dwsinau o ymatebion o bob rhan o Brydain ac Iwerddon yn barod. Ond mae'r nifer o gofnodion o Ysbrydwlithod a gadarnhawyd yn gymharol fychan, ac rydyn ni'n dal yn awyddus i gael rhagor. Os ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi gweld Ysbrydwlithen, cofiwch nodi'r pwyntiau canlynol:
- Dywedwch pa rywogaeth (neu fath) welsoch chi (Ysbrydwlithen, Gwlithen Gragennog ac ati)
- Dywedwch ble a phryd y gwelsoch chi'r wlithen (gan gynnwys y cod post at ddibenion mapio)
- Anfonwch luniau digidol os oes modd. Mae angen ffotograffau neu sbesimenau er mwyn dilysu unrhyw gofnodion.
Manylion cyswllt:
Croeso i chi ddefnyddio'r manylion cyswllt isod. Byddwn ni'n ymateb i unrhyw ymholiadau drwy e-bost neu dros y ffôn. Fel arall, gadewch eich sylwadau ar y dudalen hon (cliciwch ar y botwm "Gadael Sylw" isod). Os ydych chi'n gadael sylw, cofiwch gynnwys eich cyfeiriad e-bost.
E-bost: ben.rowson@amgueddfacymru.ac.uk
Ffôn: 029 2057 3110
Dyddiad yr erthygl: 9 Gorffenaf 2008
96 sylw
Amgueddfa Cymru ar 19 Chwefror 2013, 09:13
Dear p.rawlinson, thank you for sending through your observations, I have passed your comment and contact details though to our curators.
Graham Davies, Online Curator, Amgueddfa Cymru
p.rawlinson ar 15 Chwefror 2013, 18:20
found one today in Ventnor isle of wight,over 1" long but more yellow than white ,was eating a worm ,I have the slug captive ,photos too, contact details suplied
John Lateano ar 26 Awst 2012, 11:17
It wasn't a ghost slug, but I have seen a big brown slug with it's mouth on the end of an earthworm, as though it was eating it. On a pavement in Halesowen, B63 West Midlands.
alan hoff ar 4 Awst 2012, 08:03
i have found many ghost slugs on my lawn early morning. po16 9ug
hoffa_331@hotmail.com
Tracy ar 30 Gorffenaf 2012, 22:23
I found some whilst digging into my potato grow bag this afternoon. Freaky looking things! Unfortunately I chucked them into my compost wheelie bin without taking photos. If I find more i will take a snap. I live in Scone, Perth PH2
Samantha brown ar 22 Gorffenaf 2012, 13:05
Through the winter i have noticed a growing population of the ghost slug in my back garden, they are only babies at the moment, i live in the swansea area, for more information, you can contact me at sammy.brown@hotmail.co.uk
Joy duBern ar 10 Gorffenaf 2012, 10:30
Found a, or rather nearly trod on a ghost slug,as I had never seen one before, left it alone and ignored it. The following night(9th,July, 2012)saw a large white looking slug, since looking at your web found it to be a ghost slug. It was in my garden.. Northampton nn2 6qp. I measured it as it moved,12cm long and rather fat.Will update if seen again, so different.
Yvonne Wyman ar 5 Gorffenaf 2012, 14:12
Last night whilst in the garden I noticed white slugs on my lawn 29ft sq lawn covered in them ? they may be Ghost Slugs. Help I want to get rid of them!
Mrs Y Wyman
9 Tudor Ave
Rhostyllen
LL14 4EA
kev rose ar 1 Mehefin 2012, 11:12
Found several ghost slugs in my garden yesterday, I'm in fishguard , sa65 9er
Anni Brewer ar 24 Mai 2012, 11:20
Dear Ben,
I wonder if you are still collecting data of the ghost slugs. I found these different white slugs in my greenhouse recently and suspect that I may have introduced them accidentally in commercial compost. The baby ones congregate under my tomato seedling pots, which I kept standing on the greenhouse border soil for warmth before moving out. The location is Cefneithin, SA14 7DR. They surely are a disgusting entrant to the already varied lot of creatures in my greenhouse. I have often found hairworms waving itself around and also leeches are a common sight under the water trays.
Kind regards
Quinton Wallace ar 19 Ebrill 2012, 03:50
Ghost Slugs are nocturnal
Alison Cotton ar 22 Mawrth 2012, 15:53
i have found a shelled slug at BN26 5RW (at first I though it was the ghost slug but identified it with the help of your downloadable guide) in the act of eating a worm. Have taken photographs, including of the shell. this is 22.3.12.
Huw ar 29 Medi 2011, 08:31
Not sure if some of you guys maybe missidentified this as the very common whitish grey brown slug that is responsible for eating all your plants commonly found in numbers on lawns?
diane kear ar 21 Rhagfyr 2010, 10:31
I have connections with Usk in Monmouthshire and have travelled there and back rather a lot over the past 10 years, 3years ago I was out on the patio with a friend and we saw a large white slug and watched it for about an hour because it was different, then about 18 months ago tipping out a bag of compost found about 40 of these white slugs inside I live in Uxbridge Middx.
Anna ar 17 Rhagfyr 2010, 10:26
I don't know if this is still relevant, but a few weeks ago, I found a shelled slug of some sort in Bangor Park.(LL57 2EY) It was about 4cm long, and unfortunately, none of the pictures I took on my phone would come out clearly, due to the slug's small size. I found it after dark, crossing the path, and it made my day: I've always wanted to see one alive.
Now, if I can find a Ghost Slug, my life will be complete.
Gadael sylw