Astudiaethau castell yng Nghymru (a'r tu hwnt)
Os hoffech ddysgu am gestyll canoloesol yng Nghymru, y llyfr i chi yw Castles, town defences and artillery fortifications in the United Kingdom and Ireland: a bibliography 1945-2006 a gasglwyd gan Lyfrgellydd yr Amgueddfa, John R. Kenyon.
Gwnaethpwyd llawer o waith ar gestyll cyn 1945, er bod ein dealltwriaeth o'r cofadeiliau hyn wedi newid dros y blynyddoedd. Oherwydd y nifer fawr o enghreifftiau ardderchog o gestyll yng Nghymru bu astudiaethau castell yn rhan bwysig yn y ffordd mae'n hymchwil ar yr adeiladau hyn wedi'i datblygu dros y ganrif a hanner ddiwethaf, fwy neu lai.
Cestyll maen mawr Cymru
Disgrifiwyd George Thomas Clark fel sefydlwr astudiaethau castell. Roedd yn beiriannydd a fu'n gweithio o dan Brunel ar reilffyrdd y Great Western a Chwm Taf yn y 1830au. O'r 1850au bu'n rheoli gweithfeydd haearn Dowlais ym Morgannwg ac roedd mewn lle da i archwilio cestyll Cymru wrth ei bwysau. Ysgrifennodd nifer o bapurau ar y pwnc ac wedyn cyhoeddodd lyfr ohonynt. Cafodd ei ddamcaniaethau ar darddiad gwrthgloddiau cestyll Normanaidd cyntaf Cymru a Lloegr, yn enwedig y myntiau fel sydd i'w weld yng Nghastell Caerdydd, eu gwrthbrofi gan ymchwilwyr diweddarach megis Ella Armitage. Er gwaethaf hynny mae crynswth ei waith ar gestyll maen mawr Cymru a llefydd eraill o werth o hyd.
Mae'r Bibliography 1945-2006 gyda 740 tudalen yn brawf o ba mor boblogaidd bu astudiaethau castell er 1945. Mae cloddio'r Castell Baldwyn cyntaf a elwir yn Hen Domen o 1960 i 1992 yn enghraifft dda. Mae wedi rhoi darlun diddorol iawn i ni o sut byddai'r castell pridd a phren hwn ar y Gororau wedi edrych yn y ddeuddegfed ganrif.
Y drysau castell hynaf yn Ewrop
Mae ymchwil ddiweddar arall wedi newid ein dealltwriaeth o sut mae rhai nodweddion ar y cestyll maen mawr wedi datblygu. Un o'r enghreifftiau gorau o hyn yw Cas-gwent yn ne-ddwyrain Cymru. Yn y gorffennol ystyriwyd cyflwyniad porthdai crwn â dau dŵr fel sydd ym mhorth allanol Cas-gwent yn ddatblygiad o dua'r 1220au. Ond mae giatiau pren a oedd yn hongian yn y porthdy tan 1962, ac erbyn hyn sy'n cael eu harddangos o fewn y castell, wedi'u dyddio drwy ddendrocronoleg (sef dadansoddi cylchoedd coed) i'r 1190au. Mae hyn yn meddwl mai nhw mwy na thebyg yw'r drysau castell hynaf yn Ewrop.
Mewn llefydd eraill bu cloddio a gwarchod ar nifer o gestyll arglwyddi Cymreig cynhenid er enghraifft yn Ninefwr a Dryslwyn yn sir Gâr. Mae Dolforwyn ym Mhowys, sef y castell olaf i'w godi gan Lywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru a fu farw ym 1282, wedi ei lwyr ddatguddio. Mae canlyniadau'r gwaith ar y tri chastell wedi ymddangos mewn llyfrau tywys ac adroddiadau academaidd.
Gan: John R. Kenyon, Llyfrgellydd.
Dyddiad yr erthygl: 1 Ebrill 2009





Gadael sylw