Casglu'r hen a'r newydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Maes B, wrth gwrs, yw brawd bach drygionus (ond hoffus!) y Brifwyl, lle caiff ieuenctid Cymru wersylla a chyfedda, ddawnsio a rocio, cwrdd â chyfeillion neu hyd yn oed ddarganfod cariad oes.
Cofnododd Curadur Bywyd Cyfoes yr Amgueddfa brofiadau a storïau 24 person ar gyfer yr Archif Sain yn Sain Ffagan, ac fe gomisiynwyd Bwcibo.cyf i greu ffilm fer i'w harddangos yn Oriel 1, hefyd yn Sain Ffagan.
Arbrawf ar gasglu cyfoes oedd hyn — mae Sain Ffagan yn enwog am gofnodi hanes llafar am y gorffennol, ond tybed oedd hi'n bosibl cofnodi digwyddiadau fel eu bod yn digwydd? Yn ogystal, tybed oedd hi'n bosibl dal awyrgylch ac egni cyngerdd roc a'i gyfleu mewn oriel neu ar wefan?
Cewch chi benderfynu. Ar ôl darllen rhai o'r dyfyniadau gofnodwyd ar y ddalen hon, a gwylio'r ffilm fer, gallwch gyfrannu trwy adael sylw isod.
Oes gennych atgofion o Eisteddfodau'r gorffennol?
Beth mae'r Eisteddfod yn olygu i chi?
Fideo cerddorol dogfennol 'Maes B 2007'
Cofnod o ddiwrnod ar faes ieuenctid swyddogol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau, 2007.
[Fideo gan Bwcibo.cyf]
Dyddiad yr erthygl: 1 Gorffenaf 2008
Themau
Geirfa
Eisteddfod
Gŵyl o lenyddiaeth, cerddoriaeth a chanu Cymreig.
Maes B
Dyma'r lle canolog ar gyfer ieuenctid Cymru sy'n ymweld â'r Eisteddfod.





Gadael sylw